Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC11220
Teitl y Modiwl
Sylfeini Perfformio: Corff, Cymeriad a Thestun
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll .25 Awr   Cyflwyniad ymarferol 15 munud  (15 munud)  30%
Arholiad Ailsefyll .17 Awr   Cyflwyniad ymarferol 10 munud  (10 munud)  25%
Arholiad Semester .25 Awr   Cyflwyniad ymarferol 15 munud  15 munud (fesul pâr / grwp)  30%
Arholiad Semester .17 Awr   Cyflwyniad ymarferol 10 munud  10 munud (fesul pâr / grwp)  25%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth trwy gyflwyniad llafar unigol  (15 munud)  25%
Asesiad Ailsefyll .12 Awr   Cyflwyniad ymarferol 5 munud  Rhaid ail-gyflwyno unrhyw elfen o waith a fethwyd. Os methir elfen a gyflwynwyd trwy gyfrwng gwaith grŵp, gellir cyflwyno darn ymarferol newydd yn unigol. (5 munud)  20%
Asesiad Semester .12 Awr   Cyflwyniad ymarferol 5 munud  5 munud (fesul pâr / grwp)  20%
Asesiad Semester Sylwebaeth trwy gyflwyniad llafar unigol  15 munud  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Arddangos dealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion a gyflwynwyd yn y sesiynau ymarferol

2. Arddangos gallu i ddadansoddi’r egwyddorion theoretig sy’n sail i ddamcaniaethau’r ymarferwyr a astudiwyd

3. Arddangos gallu i ddadansoddi testunau dramatig yn ddeallus a chreadigol at ddibenion creu cyflwyniad ymarferol

4. Arddangos cyfres o sgiliau perfformio sylfaenol sy’n ymwneud ag ymgorffori cymeriad

5. Arddangos gallu i ôl-fyfyrio ar y broses o baratoi gwahanol gyflwyniadau ymarferol yn ddeallus a chryno

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn y cyflwyno elfennau sylfaenol actio seico-gorfforol yn nhraddodiad Stanislafsci, gan gynnwys elfennau o waith rhai o ‘ddisgynyddion’ Stanislafsci megis Michael Chekhov, Lee Strasberg a Sanford Meisner.

Fe fydd y dosbarthiadau ymarferol yn canolbwyntio ar archwilio gwahanol elfennau o ddulliau actio yr ymarferwyr hyn ac yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr i ddarganfod sut i ddefnyddio’r egwyddorion sylfaenol ar geir yn eu damcaniaethau trwy waith ymarferol. Fel rhan o’r gwaith dosbarth ymarferol, disgwylir i’r myfyrwyr greu dau Gyflwyniad Ymarferol a fydd yn cyfrif tuag at eu marc terfynol ar y modiwl: asesir trydydd Cyflwyniad Ymarferol yn ystod y cyfnod arholiadau fis Ionawr.

Fe fydd y seminarau yn cymryd penodau gwahanol o weithiau cyhoeddedig yr ymarferwyr hyn yn ogystal â sylwebaethau gan feirniaid ac ymarferwyr perthnasol eraill ac yn gofyn i’r myfyrwyr i drafod a dadlau ynghylch eu cymhwysiad personol hwy o’r egwyddorion a drafodir.

Cynnwys

1. Dechrau gweithio: Creu Cyflwr Mewnol Creadigol

2. Cyfeirio’r Gweithredu: Ffocws a Sylw

3. Trefnu’r Corff: Grymoedd Cymhelliant Mewnol

4. Canolbwyntio Creadigol: Ymlacio ac Anadlu

5. Seiliau Cymeriadu 1: Cof y Cyhyrau

6. Seiliau Cymeriadu 2: Cof Emosiynol

7. Trin Testun Dramataidd 1: Cyd-Destun ac Amgylchiadau Rhoddedig

8. Trin Testun Dramataidd 2: Cymalu

9. Creu Golygfa: Tempo-Rhythm

10. Byrfyfyrio: Dadansoddi Gweithredol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ddarllen gwahanol fathau o destunau a’u cymhwyso yn ddeallusol a chreadigol wrth lunio a chyflwyno’r aseiniadau. Fe fydd y dosbarthiadau ymarferol yn gofyn i’r myfyrwyr gyflwyno’n llafar (a chorfforol) wrth gyflwyno cymeriad ac wrth roi cyfrif o’u dewisiadau creadigol. Fe fydd gwrando effeithiol a gofalus hefyd yn rhan allweddol o’u gwaith ymarferol a’u gwaith mewn seminarau. Fe fydd aseiniadau llafar llwyddiannus yn gofyn paratoi ac ymarfer gofalus; a bydd y myfyrwyr sy’n cyrraedd y safonau disgwyliedig yn hyn o beth wedi ysgrifennu nodiadau a sylwadau manwl o flaen llaw.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd y modiwl hwn yn gam cyntaf i fyfyrwyr tuag at ystyried perfformio neu drefnu perfformiadau fel llwybr gyrfa. Fe fydd yn datblygu eu hymwybyddiaeth o’r math o sgiliau a phrosesau ymarferol y mae’n rhaid i berfformwyr proffesiynol eu harddel a’u meistroli. Fe fydd hefyd yn gyfle i gynnig a chyfnerthu rhai o’r ymrwymiadau sydd gan yr Adran at ddatblygiad personol myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg, megis Cynllun Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg cenedlaethol a matrics sgiliau AberGrad.
Datrys Problemau Fe fydd y modiwl yn canoli ar gymhwysiad ymarferol o egwyddorion artistig fel problem sylfaenol y mae’n rhaid i efrydydd mewn Drama/Astudiaethau Theatr fynd i’r afael â hi trwy gydol ei yrfa academaidd. Fe fydd yr aseiniadau ar gyfer y modiwl yn gwerthuso manteision ac anfanteision rhai o’r datrysiadau posibl y mae’r myfyrwyr wedi’u creu wrth drin yr egwyddorion hyn.
Gwaith Tim Fe fydd cryn dipyn o’r gwaith ymarferol ar y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr weithio’n effeithio fel rhan o dîm creadigol; ac fel adlewyrchir hyn hefyd yn yr aseiniadau ymarferol a fydd yn caniatáu gwaith fesul pâr neu grŵp. Fe fydd paratoi’r aseiniadau hyn yn gofyn i’r myfyrwyr adfyfyrio ar y math o waith tîm a hybir yn y dosbarthiadau ymarferol, gan sicrhau eu bod yn cyfrannu’n effeithiol at gynllunio ac yn chwarae rhan weithredol yng ngweithgaredd y grŵp. Fe fydd yr adborth a roddir i’r myfyrwyr yn sgil eu gwaith ymarferol a dadansoddol (asesedig neu fel arall) yn helpu iddynt ddysgu gwerthuso gweithgareddau’r grŵp a’u cyfraniad eu hunain.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd yr aseiniadau ymarferol yn gofyn i’r myfyrwyr ystyried eu cryfderau a’u gwendidau personol fel efrydwyr, a thrwy hynny ddatblygu ymwybyddiaeth o’u harddulliau dysgu eu hun. Trefnwyd y modiwl fel bod yr aseiniadau hyn yn cynyddu a o ran eu canran ar hyd y modiwl, fel bod y myfyrwyr yn medru dyfeisio a chymhwyso strategaethau dysgu a hunan-reoli realistig, ac adolygu a monitro eu cynnydd ar hyd y modiwl.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd gofyn i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil cyd-destunol wrth ddarllen a deall testunau dramataidd fel gosodiadau cymhleth sy’n crynhoi syniadau ac agweddau theoretig, ymarferol ac artistig. Fe fydd y Sylwebaeth Lafar yn gofyn iddynt adfyfyrio’n uniongyrchol ar y math o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil a ddefnyddiwyd ganddynt wrth ddod i ddeall y gwahanol destunau a astudiwyd.
Technoleg Gwybodaeth Ni fydd pwyslais neilltuol ar sgiliau Technoleg Gwybodaeth ar y modiwl hwn, ond fe fydd disgwyl i’r myfyrwyr gyrchu deunydd dysgu a gwybodaeth trwy gyfrwng Blackboard, ac i gyfathrebu’n rheolaidd â’r tîm dysgu trwy e-bost.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4