Dewisiadau Eraill

Mae Aberystwyth yn cynnig bywyd cerddorol hynod amrywiol. Mae ENTS yn Undeb y Myfyrwyr yn trefnu rhaglen lawn o ddigwyddiadau â bandiau byw; yng Nghanolfan y Celfyddydau mae’r gyfres Blues and Roots yn cynnig llwyfan i artistiaid cyffrous o faes Cerddoriaeth y Byd. Mae cerddoriaeth werin yn ffynnu yma hefyd - gyda phwyslais ar gerddoriaeth Geltaidd, wrth reswm. Mae sawl tafarn yn cynnal nosweithiau gwerin, lle y gallwch ymuno yn y sesiwn neu fwynhau gwrando ar y gerddoriaeth – ac mae yna dafarnau jas hefyd.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ar Gampws Penglais, yn ganolfan helaeth a modern sy’n cynnwys neuadd gyngerdd fawr (Y Neuadd Fawr), theatr (Theatr y Werin), sinema, orielau celf, a stiwdio/adnoddau ymarfer yn ogystal â bwyty. Disgrifiwyd Canolfan y Celfyddydau fel ‘canolfan genedlaethol flaenllaw ar gyfer y celfyddydau’, ac mae’n lleoliad o bwys i artistiaid rhyngwladol yn ogystal â pherfformwyr lleol. Mae’n cynnig rhaglen gyfoethog o gyngherddau cerddorfaol, perfformiadau, operâu a dramâu. Mae cyfraddau arbennig ar gael i fyfyrwyr. Un o’r prif fanteision i fyfyrwyr yw mynediad rhad ac am ddim i’r gyfres ardderchog o gyngherddau amser cinio a gyda’r hwyr a drefnir gan Glwb Cerddoriaeth Aberystwyth. Mae rhaglen addysg arloesol Canolfan y Celfyddydau yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau a gweithdai. O safbwynt cerddoriaeth, gall y rhain amrywio o weithdai drymio samba a gitâr drydan i theori a chyfansoddi cerddoriaeth. Bob haf, mae Canolfan y Celfyddydau a’r Brifysgol yn cynnal Musicfest, sef un o brif wyliau cerddoriaeth Prydain.