Offerynnol

Mae Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd ardderchog i offerynwyr.

Mae Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd ardderchog i offerynwyr. Mae cerddorfa symffoni’r Brifysgol, Philomusica Aberystwyth, yn canolbwyntio ar gerddoriaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae enw nodedig i’r gerddorfa fawr hon, sydd wedi gweithio gydag unawdwyr o fri rhyngwladol, yn cynnwys y pianydd John Lill a'r delynores Catrin Finch. Cerddorfa siambr yw Sinfonia’r Brifysgol, sy’n dod ynghyd mewn modd anffurfiol ac yn chwarae repertoire sy’n fwy addas i grwpiau bychain. Hefyd ar lefel fwy anffurfiol, mae’r Brifysgol yn cynnal grŵp llinynnol, gitâr a sacsoffon wythnosol, Simply Strings, Noson Gitâr a Saxophony.

Mae Band Cyngerdd y Brifysgol yn cynnig cyfle i offerynwyr chwyth a tharo gael profiad o holl amrediad repertoire y band chwyth. Mae’n agor drysau cerddorol i gerddorion profiadol a newydd ac mae'n cynnal dau gyngerdd y flwyddyn. Band pres lleol yw Seindorf Arian Aberystwyth. Mae gan y band raglen brysur o gyngherddau ac mae’n cynnig croeso cynnes i fyfyrwyr.