Cerddorfa Symffoni
Philomusica
Cerddorfa Symffoni
Philomusica yw cerddorfa symffoni Aberystwyth. Er ei bod yn cael ei rhedeg fel elusen gofrestredig annibynnol, mae ganddi gysylltiadau agos â Phrifysgol Aberystwyth ac mae’n cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Cerdd, Dr David Russell Hulme. Mae gan y gerddorfa tua 80 o aelodau - myfyrwyr yn bennaf yn gweithio ochr yn ochr â cherddorion amatur lleol a cherddorion proffesiynol. Mae rhai o’r cerddorion hyn yn teithio pellteroedd sylweddol i chwarae gydag un o’r grwpiau mwyaf a’r mwyaf llwyddiannus o’i fath yng Nghymru. Cyflwynir dwy gyngerdd bob blwyddyn yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, darnau Rhamantaidd a darnau o’r ugeinfed ganrif a berfformir yn bennaf, ond yn ogystal â pherfformio gweithiau prif ffrwd mae’r gerddorfa’n chwarae cerddoriaeth llai adnabyddus, yn enwedig gan gyfansoddwyr Prydeinig.
Yn ddiweddar, perfformiodd Philomusica Symffoni Rhif 1 Mahler, ac mae rhai o unawdwyr gorau’r byd wedi gweithio gyda’r gerddorfa – gan gynnwys ei noddwr, John Lill. Rhai o'r gweithiau a berfformiwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw'r Symffoni Wyddelig gan Hamilton Harty, Dawnsiau Symffonig - West Side Story gan Bernstein, a'r Darlun Symffonig yn seiliedig ar Porgy a Bess gan Gershwin. Yn gymharol ddiweddar, perfformiodd y gerddorfa'n fyw ger y sgrîn fawr o drac sain Neil Brand ar gyfer Blackmail Alfred Hitchcock. Gweler yr oriel bosteri am ragor o wybodaeth am y rhaglenni.
Yn gyffredinol, bydd darpar chwaraewyr newydd yn cael prawf ac yn cael cynnig lle parhaol os oes lle addas ar gael. Dylai unrhyw un sydd am ymuno gysylltu â’r Cyfarwyddwr Cerdd neu ddod i’r sesiwn ymarfer cyntaf.
Arweinydd: Dr David Russell Hulme
Blaenwr: Jayne Robinson
Dirprwy-Flaenwr: Isobelle McGuinness
Sesiynau Ymarfer
Cynhelir y sesiynau ymarfer ar nos Fercher rhwng 7.30 a 10.00 yr hwyr yn Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth.
Mae croeso i aelodau newydd bob amser.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | |
---|---|---|---|
02.10.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
09.10.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
16.10.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
23.10.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
30.10.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
06.11.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
13.11.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
20.11.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
27.11.19 | 19:30 - 22:00 | Hen Goleg | NOS FERCHER |
01.12.19 | 18:00 - 21:00 | Hen Goleg | NOS SUL |
04.12.19 | 19:30 - 22:00 | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth | NOS FERCHER |
06.12.19 | 19:30 - 22:00 | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth | NOS WENER |
07.12.19 | 14:00 - 17:00 | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth | DYDD SADWRN |
07.12.19 | 22:00 CYNGERDD | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth | NOS SADWRN |