Amserlen Ymarfer
Mae croeso i bobl ymuno â grwpiau bach Y Ganolfan Gerdd ar unrhyw adeg. Y grwpiau yw: Grwp Gitâr Saxophony Simply Strings Nid yw'r grwpiau hyn yn cynnal cyngherddau. Maent yn dod ynghyd i fwynhau creu cerddoriaeth mewn awyrgylch anffurfiol. Mae'n bosibl fod modd ymuno â'r Band Cyngerdd yn hwyrach yn y tymor hefyd, ond cysylltwch â swyddfa'r Ganolfan Gerdd yn gyntaf. Mae angen chwaraewyr ffliwt yn arbennig ar hyn o bryd, ond mae'n bosibl fod angen chwaraewyr ychwanegol mewn adrannau eraill hefyd. Dewich i ymuno â ni!
Grŵp | Disgrifiad | Diwrnod | Amser | Dyddiad Cychwyn | Lleoliad |
---|---|---|---|---|---|
|
|||||
Philomusica | Mae cerddorfa symffoni'r Brifysgol yn canolbwyntio ar gerddoriaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Mae enw nodedig i'r gerddorfa fawr hon, sydd wedi gweithio gydag unawdwyr o fri rhyngwladol. | Dydd Mercher | 19:30-22:00 | 08.01.20 | Neuadd yr Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Cantorion y Brifysgol | Côr mawr cymysg yw Cantorion y Brifysgol, sy'n paratoi gweithiau mawr i'w perfformio gydag unawdwyr a cherddorfa yn ystod tymor y Grawys. Dim prawf-wrandawiadau, ac mae croeso i bawb. | Dydd Iau | 19:30-21:30 | 09.01.20 | Neuadd yr Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Band Cyngerdd | Mae'r Band Cyngerdd yn cynnig cyfle i offerynwyr chwyth a tharo gael profiad o holl amrediad repetoire y band cyngerdd. Mae'n agor drysau cerddorol i gerddorion profiadol a newydd heb gyfaddawdu ar y pleser na'r safonau. | Dydd Llun | 19:30-21:30 | 13.01.20 | Neuadd yr Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Cantorion Madrigalau Elisabethaidd | Côr siambr ag aelodaeth drwy brawf sy'n perfformio repetoire helaethach o lawer nag y mae'r enw yn ei awgrymu. Mae gan y 'Mads', fel y'u gelwir, aelodaeth frwd a ffyddlon, a chawsant glod am eu safonnau uchel. | Dydd Llun a Dydd Iau | 19:00-21:00 | Ionawr 2020 | Y Stiwdio Gerdd |
Simply Strings | Grŵp Llinynnol anffurfiol | Dydd Mawrth | 19:30-21:30 | 14.01.20 | Y Stiwdio Gerdd, Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Noson Gitâr
|
Grwp Gitâr anffurfiol | Dydd Mawrth | 19:00-21:00 | 14.01.20 | Y Stiwdio Gerdd, Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Seindorf Arian | Mae gan Seindorf Arian Aberystwyth raglen brysur o gyngherddau ac mae'n cynnig croeso cynnes i fyfyrwyr ymuno. | Dydd Mawrth | 19:30 | Ionawr 2020 | Ystafell Seindorf, Coedlan y Parc |
Cymdeithas Gorawl Aberystwyth | Côr Amatur y Dre sy’n perfformio dau gyngerdd y flwyddyn | Dydd Mawrth | 19:30-21:30 | 14.01.20 | Neuadd yr Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Showtime Singers | Cymdeithas Theatr Amatur, yn perfformio ‘Patience’ eleni | Dydd Mercher | 19:30 | Ionawr 2020 | Y Stiwdio Gerdd, Hen Goleg, Stryd y Brenin |
AberOpera | Grwp bach sy'n perfformio darnau o operâu mewn cyngherddau. | Dydd Gwener | 19:00-21:00 | Ionawr 2020 | Neuadd yr Hen Goleg, Stryd y Brenin |
Curtain Call | Cymdeithas o fyfyrwyr sy'n llwyfanu cynyrchiadau o sioeau cerdd modern. | Dydd Mercher | 13:00-18:00 | Ionawr 2020 | Y Stiwdio Gerdd |