Lleisiol
Beth bynnag yw’ch profiad a’ch dewis, mae yna gyfleoedd gwych i ganu yn Aberystwyth. Côr mawr cymysg yw Cantorion y Brifysgol sy’n paratoi gweithiau mawr i’w perfformio gydag unawdwyr a cherddorfa yn yr ail dymor. Bu Requiem Mozart, The Dream of Gerontius gan Elgar, ac The Armed Man a Stabat Mater gan Karl Jenkins ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar. Does dim clyweliadau ac mae croeso i bawb. Côr siambr a cappella i fyfyrwyr yw Cantorion Madrigalau Elisabethaidd, sydd ag aelodaeth trwy brawf, yn perfformio repertoire helaethach o lawer nag y mae’r enw yn ei awgrymu. Mae gan y 'Mads', fel y’u gelwir, aelodaeth frwd a ffyddlon a chawsant glod am eu safonau uchel. Mae’r teithiau cyngerdd yn nodwedd boblogaidd o raglen y côr, ac maent wedi ymweld â Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Pwyl a nifer o wledydd eraill.
Yn ogystal â grwpiau lleisiol y brifysgol, mae yna sawl grwp yn Aberystwyth sy'n croesawu myfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol i ymuno â nhw. I’r rhai sy’n hoffi canu ym myd y theatr, mae’r Showtime Singers yn perfformio Gilbert & Sullivan yn ogystal â sioeau poblogaidd, ac mae Curtain Call yn gymdeithas i fyfyrwyr ac yn perfformio sioeau cerdd modern.
Mae Cymdeithas Gorawl Aberystwyth yn cynnal dau gyngerdd y flwyddyn ac mae'n hapus i groesawu aelodau newydd bob amser. Does dim clyweliadau i ymuno. Mae AberOpera yn cynnig cyfle unigrwy i fyfyrwyr, staff y Brifysgol, a chantorion lleol i berfformio arias operatig, deuawdau a/neu ensemblau mewn cyngherddau misol. Mae rhai o'r haelodau wedi canugyda chwmniau broffesiynol neu rai rhannol-broffesiynol fel Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Canolbarth Cymru, a Chorws Symffoni Dinas Birmingham - ond mae croeso i unrhyw un sydd eisiau canu fel unawdydd neu mewn ensemble! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â gwdihwcwrt@gmail.com neu 01970 820157.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymarferion ar gyfer y grwpiau hyn yn ein Amserlen Ymarfer.