Cantorion Madrigalau Elisabethaidd
Mae’r Cantorion Madrigalau Elisabethaidd (neu’r ‘Mads’ fel y’u gelwir) yn un o’r prif gorau sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr yn Aberystwyth.
Sefydlwyd y côr gan grŵp o ffrindiau a oedd am ganu madrigalau gyda’i gilydd; ond dros y blynyddoedd mae’r gorwelion wedi ehangu’n sylweddol ac, yn ogystal â madrigalau, mae repetoire y côr hefyd yn cynnwys cerddoriaeth mor amrywiol â Gorecki a Brahms, Mendelssohn a Messiaen, cerddoriaeth grefyddol a seciwlar, a chaneuon gwerin ac ysbrydol: I bob pwrpas, mae’r Mads yn canu unrhyw ddarnau digyfeiliant.
Yn ogystal â pherfformio yn Aberystwyth a’r cyffiniau, mae’r côr yn mynd ar daith ddwywaith y flwyddyn.
Cynhelir clyweliadau i aelodau newydd ac mae’r côr yn cwrdd yn rheolaidd bob nos Lun a nos Wener.