Beth i'w wneud cyn cyrraedd

Yn yr adran hon fe gewch lawer o gyngor ac awgrymiadau defnyddiol a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich amser yn Aberystwyth. 

Llety

Trwy ddewis byw yn llety Prifysgol Aberystwyth, byddwch yn dod yn rhan o gymuned eithriadol o gynhwysol a chefnogol sy'n croesawu pawb! 

Mae ein holl breswylfeydd ar y campws, ac mae ein tîm preswylfeydd cyfeillgar ar gael 24/7 i sicrhau eich bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl. 

Rydym wedi datblygu cyfres o dudalennau gwybodaeth i helpu i gefnogi eich taith i'n preswylfeydd, a'ch ysbrydoli i fanteisio i’r eithaf ar eich amser gyda ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth: 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'n Swyddfa llety: accommodation@aber.ac.uk / 01970 622984

Gwasanaethau Gwybodaeth Cyfrif E-bost Aber a Cherdyn Aber

Mae eich cyfrif e-bost a Cherdyn Aber yn rhoi mynediad i chi i'r gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiaduron a chyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwch yn cael e-bost yn fuan cyn i’ch cwrs ddechrau gyda manylion ynghylch sut i ysgogi eich cyfrif e-bost. Cadwch lygad ar eich cyfrif e-bost, yn enwedig yn ystod yr wythnosau cyn dechrau eich astudiaethau gan y byddwn yn cysylltu i'ch tywys drwy'r broses o gofrestru, cyrraedd ac ymgartrefu i’ch astudiaethau yma yn Aberystwyth.

Ar ôl i chi ysgogi eich cyfrif e-bost, gallwch wneud cais am Gerdyn Aber ar-lein.

Gallwch gasglu eich cerdyn Aber o Lyfrgell Hugh Owen. Bydd angen i chi ddod i’r llyfrgell gyda dogfen adnabod â llun arni. 

Ffioedd a Chyllid

Mae'n bwysig eich bod yn gwneud trefniadau i dalu eich ffioedd dysgu cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i drefnu hyn, ynghyd â chyngor ac awgrymiadau defnyddiol eraill, ar y tudalennau gwe Ffioedd a Chyllid.

Cyngor Ariannol

Mae’r Ein Tîm Arian a Chyngor i Fyfyrwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a chyfeirio ar ystod eang o faterion. Os ydych yn ansicr ynglŷn â ble i fynd ar gyfer cyngor neu gymorth, cysylltwch â ni. Nid oes unrhyw broblem yn rhy fawr nac yn rhy fach. Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol, yn rhad ac am ddim, ac ni fyddwn yn eich barnu. Gallant Cynghorwyr Myfyrwyr gynnig cyngor proffesiynol ar reoli arian neu faterion sy’n gysylltiedig â Chyllid Myfyrwyr. Gallant hefyd roi cyngor ac arweiniad ar ymholiadau sy’n ymwneud â llety, cynnydd academaidd, gweithdrefnau’r Brifysgol neu gymhwystra ar gyfer cronfeydd caledi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Cyngor ac Arian neu cysylltwch â: student-adviser@aber.ac.uk / 01970 621761 / 01970 622087.

Anableddau a Chymorth Dysgu

Os nad ydych eisoes wedi rhoi gwybod i’r Brifysgol am eich anabledd, gwahaniaeth dysgu, neu broblem iechyd tymor-hir, a fyddech cystal â chysylltu â’r Gwasanaethau Hygyrchedd er mwyn i un o’n Cynghorwyr Myfyrwyr eich cynghori ynglŷn â’r gefnogaeth a/neu’r addasiadau all fod ar gael i chi.

Mae'r tîm ar gael i helpu - cyn cyrraedd, cysylltwch â'r tîm drwy ffonio 01970 621761 neu drwy anfon e-bost at accessibillity@aber.ac.uk

Rydym yn deall gallu bod hwn yn gyfnod pryderus ac ansicr i rhai ohonoch. Os ydych yn wynebu unrhyw rwystrau o ran iechyd, os gwelwch yn dda rhowch i ni wybod. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau y gallwch ddychwelyd i fywyd Prifysgol cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib i chi. Byddwn yn darpau mwy o wybodaeth ynglyn a hyn i fyfyrwyr yn y dyfodol agos.

Am fwy o wybodaeth


Cyn ichi gyrraedd, a ydych wedi:

  • ystyried datgelu anabledd/cyflwr iechyd yn ffurfiol, gan mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn gallu gwneud addasiadau rhesymol a darparu mathau penodol o gymorth ar eich cyfer?
  • ystyried trefnu apwyntiad gyda’r Tîm Hygyrchedd (disability@aber.ac.uk) a fydd yn gallu eich cynghori ymhellach ynglŷn â chefnogaeth a dewisiadau o ran cyllid?
  • gwneud cais, os ydych yn gymwys, ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) – gwefan ddefnyddiol http://www.yourdsa.com/
  • cadarnhau eich trefniadau llety a bod eich dewis o lety yn addas ar gyfer eich anghenion iechyd neu anabledd?

Iechyd a Lles

Am wybodaeth fanwl am Iechyd a Lles, ewch i'n tudalennau gwe Iechyd Myfyrwyr.

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn rhoi cyngor ac arweiniad ar bob math o faterion lles. Er ein bod yn cydweithio’n agos â meddygfeydd lleol a gwasanaethau’r ysbyty i sicrhau eich bod yn cael gofal a sylw da os oes angen, mae’n bwysig i chi gofrestru mewn meddygfa leol yn Aberystwyth. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Myfyrwyr.

Cyn ichi gyrraedd, a ydych wedi:

Gwirio bod eich brechiadau yn gyfredol? Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau cyfredol ar gyfer y canlynol: Meningitis (MenACWY), y frech goch, Diptheria, Polio, Tetanus. Os ydych chi'n fyfyriwr o wlad sydd â chyfraddau uchel o TB rydym hefyd yn argymell eich bod wedi'ch brechu rhag TB. 

Os oes gennych unrhyw anghenion o ran iechyd a/neu os ydych eisoes wedi datgelu anabledd/cyflwr iechyd:

  • Ewch â chyflenwad da o'ch meddyginiaeth ragnodedig gyda chi i'r Brifysgol i bara o leiaf ychydig wythnosau? Nid ydym yn argymell eich bod yn dibynnu ar eitemau yn cael eu hanfon drwy'r post. 
  • Gwiriwch fod eich meddyginiaeth o fewn y dyddiad.
  • Ystyriwch sut y byddwch chi'n storio'ch meddyginiaeth yn ddiogel.
  • Ewch â chyflenwad da o unrhyw offer sydd ei angen i helpu'ch cyflwr iechyd (e.e., blychau miniog, pecynnau profi BM ac ati) i bara o leiaf ychydig wythnosau.
  • Ystyriwch sut y byddwch chi'n rheoli'ch cyflwr yn annibynnol (e.e. rhoi gwybod i ffrindiau, ICE, ymwybyddiaeth o reolaeth/gweithdrefnau brys, amseroedd clinig ac ati). 
  • Ystyriwch ofyn i'ch tîm triniaeth/iechyd cartref eich cyfeirio at arbenigwyr yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth ar gyfer gofal a thriniaeth yn ystod y tymor. 
  • Os oes angen, ystyriwch gysylltu â'r Tîm Diabetes lleol ar gyfer cymorth yn ystod y tymor. 

Rhaid i fyfyrwyr gofrestru â meddygfa o'u dewis nhw o fewn wythnos o gyrraedd Aberystwyth. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau gwe Iechyd Myfyrwyr

Manylion Cyswllt mewn Argyfwng neu Problem Lles

Gofynnwn i bob myfyriwr wirio manylion eu cyfeiriadau Prifysgol a chartref yn ogystal â’u manylion cyswllt i sicrhau eu bod yn gywir, ac i nodi manylion cyswllt mewn argyfwng neu problem lles. Cofiwch sicrhau eich bod yn cael caniatâd yr unigolyn rydych wedi’i ddewis i fod yn gyswllt mewn argyfwng a bod y manylion cyswllt sydd gennych ar eu cyfer yn gywir.

Cerdyn Disgownt TOTUM

Adnabyddir cerdyn TOTUM yn wreiddiol fel NUS, yn gerdyn disgownt #1 i fyfyrwyr sy’n cynnig dros 200 o ostyngiadau i fyfyrwyr y D.U.. gyda ISIC am ddim yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r cerdyn ar gael i’w ddefnyddio mewn 130 o wledydd gyda dros 42,000 o ostyngiadau rhyngwladol.

Dyma’r unig gerdyn disgownt a gymeradwywyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth.

 

Cynllunio'ch Siwrne

Mae’n hawdd dod o hyd inni, waeth sut y byddwch yn teithio. Yn ein tudalen am Fapiau a Theithio cewch wybodaeth fanwl am sut i gyrraedd Aberystwyth.

Bydd llawer o bobl yn gyrru i Aber, ond efallai yr hoffech ddal y trên. Yn ystod ein Penwythnos Croeso ym mis Medi, bydd ein Tîm A gwych (myfyrwyr presennol) wrth law yng ngorsaf drenau Aberystwyth i'ch croesawu a'ch cynorthwyo i gyrraedd y campws.

Manylion Cyswllt mewn Argyfwng

Gofynnwn i bob myfyriwr wirio manylion eu cyfeiriadau Prifysgol a chartref yn ogystal â’u manylion cyswllt i sicrhau eu bod yn gywir, ac i nodi manylion cyswllt mewn argyfwng ar eu cofnod myfyriwr. Cofiwch sicrhau eich bod yn cael caniatâd yr unigolyn rydych wedi’i ddewis i fod yn gyswllt mewn argyfwng a bod y manylion cyswllt sydd gennych ar eu cyfer yn gywir.