Cyrraedd ar y Trên - Croeso Mawr 2023

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth trên presennol ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

 

Cyrraedd ar y trên ar gyfer slot symud i mewn a archebwyd o flaen llaw: Dydd Gwener 22 i ddydd Sadwrn 23 Medi.

Cyrraedd ar y trên ar gyfer slot symud i mewn a archebwyd o flaen llaw: Dydd Gwener 22 i ddydd Sadwrn 23 Medi.

Yn ystod y prif gyfnod cyrraedd, o ddydd Gwener 22 i ddydd Sadwrn 23 Medi, bydd gwasanaeth bws am ddim ar gael i fyfyrwyr sy'n cyrraedd ar drenau i Aberystwyth. Bydd y gwasanaeth hwn yn mynd â chi o'r orsaf drenau i'r man casglu allweddi ar gyfer eich neuadd. Gadewch yr orsaf wrth yr allanfa yn syth ymlaen (ar ddiwedd y platfform), lle bydd ein gwirfoddolwyr Tîm-A (mewn crysau-t coch) yn eich cyfeirio at y bws.

Os ydych wedi archebu i gyrraedd yn ystod y slotiau 'y tu allan i oriau', dilynwch y canllawiau a nodir yn yr adran isod.

Cyrraedd ar adegau eraill

Os ydych wedi archebu i symud i lety prifysgol yn ystod un o'r slotiau amser / dyddiadau isod, noder efallai y bydd hi’n rhaid i chi ffeindio’ch ffordd eich hun o'r orsaf drenau i'r man casglu allweddi ar gyfer eich neuadd. Mae hyn yn berthnasol i:

  • Fyfyrwyr sydd wedi archebu slot cyrraedd 'cynnar', sef cyn 22 Medi.
  • Myfyrwyr sydd wedi archebu slot cyrraedd 'y tu allan i oriau' yn ystod y prif gyfnod cyrraedd.
  • Myfyrwyr sydd wedi archebu slot cyrraedd ‘hwyr’ o ddydd Sul 24 Medi ymlaen.

Wrth adael yr orsaf drenau o'r allanfa ar y llaw chwith, mae safle tacsis wedi'i leoli'n union y tu allan.