O'r Campws i'w Gyrfa
O Beirianwyr Meddalwedd i Reolwyr Ffermydd, o Swyddogion Heddlu Llundain i Stỳnt-Feiciwr, mae ein graddedigion o 2015 yn dilyn llwybrau gyrfaol amrywiol iawn. Dyma rai o'r swyddi y mae cyn-fyfyrwyr Aberystwyth yn eu gwneud ers gorffen eu cyrsiau gradd yn 2015.
Cynllun Gradd |
Teitl y Swydd |
Cwmni |
BSc Biocemeg |
Cynorthwyydd Ymchwil |
Virgin |
BSc Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiaduron |
Datblygwr Meddalwedd |
BAE Systems Applied Intelligence |
BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol |
Athro Saesneg Arbenigol Tramor |
Ysgol Arbrofol Ryngwladol Nanshu |
BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth |
Ymchwilydd Seneddol |
Llywodraeth Prydain |
BSc Cyfrifeg a Chyllid |
Ymgynghorydd Adneuo a Benthyg |
Silicon Valley Bank |
BSc Astroffiseg |
Peiriannydd Optegol |
SFTC |
BA Cymraeg a Ffrangeg |
Intern Graddedig |
Addysg Uwch Cymru, Brwsel |
BSc Cyllid Busnes |
Gwerthwr Gweithredol |
Land Rover |
BA Amaethyddiaeth |
Rheolwr Fferm |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
BA Bioleg Planhigion |
Technegydd Labordy |
NIAB |
BA Astudiaethau Plentyndod |
Gweithiwr Cyswllt y Sbectrwm Awtistig |
Brookdale Care |
BSc Troseddeg |
Ymchwilydd Troseddol / Swyddog Cudd-wybodaeth Cyllid a Thollau EM |
Cyllid a Thollau EM |
BSc Gwyddor Daear yr Amgylchedd |
Gweithredwr Dylunio â Chymorth Cyfrifiadurol |
Western Power Distribution |
BSc Mathemateg |
Dadansoddwr Data |
Deloitte |
BA Cymraeg |
Dadansoddwr Desg Gymorth Cymraeg |
Phoenix IT / Daisy Group |
BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol |
Swyddog Cysylltiadau Allanol |
Y Llys Troseddol Rhyngwladol |
BA Hanes a Llenyddiaeth Saesneg |
Intern Golygyddol |
Bauer Media |
BA Hanes |
Athro Ysgol Elfennol |
Llywodraeth Corea |
BA Astudiaethau Ffilm a Theledu |
Masnachwr Gweledol |
House of Fraser |
BA Drama ac Astudiaethau Theatr |
Cynorthwyydd Darlledu |
BBC Cymru |
LLB Y Gyfraith |
Paragyfreithiwr |
Hugh James |
Dim ond ychydig o'r meysydd a'r gyrfaoedd amrywiol y mae ein graddedigion wedi mynd iddynt yw'r rhain. Mae'r sgiliau a gawsant ym Mhrifysgol Aberystwyth yn golygu eu bod yn gallu rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol yrfaoedd, gan agor maes eang o ddewisiadau cyffrous iddyn nhw eu dilyn ar ôl graddio.