Arddangosfa Archaeopteryx
ARDDANGOSFA O’R CYFNOD JWRASIG mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru yn Yr Hen Goleg
15 Chwefror – 21 Ebrill 2017
Dydd Llun – Dydd Sadwrn, 10yb – 4yp
Canolbwynt yr arddangosfa fydd yr Archaeopteryx gyda'i adenydd sy’n fetr o led, ei grafangau a’i dannedd miniog.
Mae’n dyddio o'r cyfnod Jwrasig hwyr, tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a chredir taw dyma’r ddolen gyswllt rhwng dinosoriaid a'r aderyn modern.
Bydd yr arddangosfa sydd ar fenthyg o Amgueddfa Cymru, ac a fydd hefydd yn cynnwys ffosilau o gasgliadau'r Brifysgol, ac wedi ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL), yn agor o'r 14eg o Chwefror tan y 21ain o Ebrill 2017, ac yn cynnwys hanner tymor a gwyliau’r Pasg.
Mae'r Brifysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Ceredigion i ddarparu sesiynau ‘cyffwrdd â threftadaeth’ ar gyfer teuluoedd.
Fideo 360⁰ o'r Arddangosfa Archaeopteryx
Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa:
Mawrth 2017
Ebrill 2017
Dydd Mercher 5 Ebrill.
6yh - 8yh.
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol (gweithdy cyfrwng Saesneg). Rachel Skaggs - Arddangosfa Archaeopteryx - Ffantasi?
Dydd Sadwrn 8 Ebrill.
2yp - 4yp.
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol (gweithdy cyfrwng Saesneg). Richard Henson.
Dydd Llun 10 Ebrill.
1yp - 3yp.
Gweithdy Gwyliau - Modelu mewn Clai. Mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Dydd Mawrth 11 Ebrill.
1yp - 3yp.
Gweithdy Gwyliau - Modelu mewn Clai. Mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Dydd Mercher 12 Ebrill.
1yp - 3yp.
Gweithdy Gwyliau - Modelu mewn Clai. Mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Iau 13 Ebrill.
10yb - 12yp ac 1yp - 3yp.
Mewn cydweithrediad â Amgueddfa Ceredigion.
Gweithdy Cerfluniau Gwifrau - Dewch i greu eich aderyn cynhanesyddol eich hun â gwifrau – sut beth fydd eich un chi?
Lleoliad - Pawb i gwrdd yn Nerbynfa Penglais am 11yb & 3yp.
Bydd Dr Ian Scott, Uwch Ddarlithydd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn trefnu sesiwn palaeobotanegol yn Nhŷ Gwydr y Gerddi Botaneg, sy’n cynnwys teuluoedd o blanhigion a oedd yn doreithiog yn y cyfnod Jwrasig (sycadau, cnwp-fwsoglau, marchrawn, rhedyn enfawr).
Dydd Sadwrn 15 Ebrill.
10yb - 12yp ac 1yp - 3yp.
Mewn cydweithrediad â Amgueddfa Ceredigion.
Creu Trugareddau! Dewch i greu Cwpwrdd Trugareddau bychan wedi’i ysbrydoli gan yr Archaeopteryx rhyfeddol a ffosiliau eraill!
Llun y Pasg 17 Ebrill
11yb.
Lleoliad - Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Ffilm: Gogwana (30 munud) PG
Dewch i fwynhau ffilm animeiddiedig am y dyn ogof gwirion a’i deulu mewn ffantasi o’r Oes y Cerrig, a’u hanturiaethau.
Mae’n ffilm o fri sydd wedi ennill sawl gwobr ryngwladol.
Mynediad am ddim drwy docyn - www.llgc.org.uk
Dydd Mawrth 18 Ebrill.
10yb -12yp ac 1yp - 3yp.
Gweithdy Gwyliau - Creu bag trwy brintio-sgrîn. Mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Mercher 19 Ebrill.
10yb -12yp ac 1yp - 3yp.
Gweithdy Gwyliau - Modelu mewn Clai. Mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Bydd yr holl weithdai yn cael eu cynnal yn Yr Hen Goleg, oni nodir yn wahanol.
YR HEN GOLEG, Prifysgol Aberystwyth, Stryd y Brenin, Aberystwyth, SY23 2AX