Digwyddiadau a Llogi Ystafell

 

Ymarferion Cerddorol a Chyngherddau

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o’r Hen Goleg dros y blynyddoedd ac mae nifer o ymarferion a Chyngherddau wedi cael eu cynnal yn yr adeilad. Hoffem barhau â’r traddodiad hwn trwy ddarparu ystafelloedd llawn cymeriad i hyrwyddo perfformiadau cerddorol neu ddramatig.

 

 

 

 

 

Llogi Ystafelloedd

Mae’r Hen Goleg yn lleoliad godidog ar gyfer digwyddiadau. O gynadleddau i gynulliadau gan glybiau a chymdeithasau, gallwn ddarparu gofodau ac arlwyaeth ar gyfer eich digwyddiad sy’n sicr o greu argraff gyda’n golygfeydd syfrdanol a’r bensaernïaeth drawiadol.

 

Os hoffech archebu taith tywys neu logi ystafell neu ystafelloedd yn yr Hen Goleg, cliciwch yma i lenwi ffurflen archebu.