UMCA

Aelodau tîm rygbi’r Geltaidd yn ymarfer ar gae Pantycelyn

Mae Pantycelyn wedi bod yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ers 1973.

Llywydd UMCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-17 yw Rhun Dafydd ac yma mae’n crybwyll hanes yr undeb ac yn rhannu rhai o’i atgofion yntau o fyw yn y neuadd breswyl pan oedd yn fyfyriwr israddedig.

Cenhadaeth UMCA

Undeb sydd yn bodoli ers 1973 ydi UMCA. Cafodd ei sefydlu’n arbennig ar gyfer gwarchod hawliau a buddiannau, ac ymgyrchu dros fyfyrwyr Cymraeg yn y Brifysgol. Mae UMCA yn cynrychioli ei haelodau o safbwynt cymdeithasol, ieithyddol ac addysgol. Pan sefydlwyd UMCA, roedd hi’n adeg cythryblus iawn o fewn yr ymgyrch a’r mudiad ieithyddol Cymraeg. Roedd sefydlu undeb o’r fath yn gam anferthol yn y frwydr dros hawliau i’r Gymraeg.Mae’r undeb wedi bod wrth ganol rhai o ddatblygiadau’r Gymraeg megis brwydro i sefydlu Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Erbyn heddiw, mae UMCA wedi tyfu i fod yn fudiad dylanwadol iawn gyda llais a chynrychiolaeth ar rhai o brif fyrddau, siambrau a chyfarfodydd y Brifysgol. Yn ddiwylliannol mae UMCA yn gyfrifol am gynnal adloniant ymysg y Gymdeithas Cymraeg y Brifysgol trwy trefnu Y ddawns Ryng-gol, llwyth o gigs achlysurol a salw trip o amgylch dalgylch Aberystwyth. Daw aelodau UMCA o phob cwr a Gymru a thu hwnt gan greu gymuned unigryw sy’n ffynnu a esblygu’n flynyddol.

Atgofion Rhun

Roedd cyrraedd Pantycelyn yn deimlad bron yn arallfydol i mi. Ges i fy magu yn y de ddwyrain ar aelwyd Gymraeg ond heblaw am fy Addysg, doedd ddim llawer o Gymraeg i’w chlywed, yn enwedig yr ochr gymdeithasol. Dwi’n cofio clywed am Bantycelyn cyn i mi gyrraedd, roedd ei enw rhywsut yn rhan o’n cof. Fe ddaeth yr adeilad yn rhyw fan gwyn fan draw i mi a siŵr o fod i nifer o bobl a fuodd fyw yn y Neuadd. Wrth symud i mewn  yn yr wythnos neu ddau gyntaf doeddwn fethu gwir credu’r peth bod yna gymuned Cymraeg cwbl Cymraeg yn bodoli yn y neuadd a Chymreictod y lle ar dân. Roedd posib gwneud pob agwedd o’n mywyd trwy fy iaith gyntaf, boed hynny yn chwarae Rygbi i’r Geltaidd i ymlacio  yn y lolfa yn trafod pob dim dan haul. Ar y pryd mae’n bosib dweud taw Pantycelyn oedd un o gymunedau mwyaf Cymreig  ac amlddiwylliannol yn y wlad. Cymuned glos oedd Pantycelyn, gyda dros 200 o gyfeillion yno,  yn profi digwyddiad na cheir unman arall yn y byd. Roedd wrth gwrs yn gymuned Gymreig ond gyda llygaid rhyngwladol ar y byd ac roedd trafodaethau dros fwyd yn y ffreutur yn dangos hynny.