Bas-Data Trwyddedau Parcio - Datganiad Preifatrwydd

Mae’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn disgrifio’r ffyrdd y mae system bas-data Trwyddedau Parcio Prifysgol Aberystwyth yn casglu ac yn defnyddio eich data personol.
Eich cyfrifoldeb chi yw adolygu a deall y Datganiad Preifatrwydd hwn cyn rhoi eich data personol i ni. Rhaid ichi hefyd adolygu ein Telerau ac Amodau. Os nad ydych yn derbyn ac yn cytuno â’r Datganiad Preifatrwydd a/neu’r Telerau ac Amodau, ni ddylech roi eich data personol i ni ac ni chewch ddefnyddio ein nwyddau/gwasanaethau.
Gall Telerau ac Amodau ein Datganiad Preifatrwydd hefyd newid o dro i dro. Pan fyddwn yn eu newid, bydd y polisïau a addaswyd yn cael eu postio ar ein gwefan ac yn effeithiol bryd hynny. Bob tro y newidir y wybodaeth, bydd rhif y fersiwn a ddangosir ar waelod y tudalen hefyd yn newid. Felly, bob tro y byddwch yn troi at ein gwasanaethau, neu’n eu defnyddio, neu fel arall yn ymgysylltu â ni, byddwch yn derbyn ac yn cytuno â’r Datganiad Preifatrwydd a’r Telerau ac Amodau diweddaraf. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn.