Ysgoloriaethau Adrannol
Ymroddedig i annog ymgeiswyr brwdfrydig o’r radd flaenaf i fynd ati i astudio Ffiseg
Mae’r Ysgoloriaeth Adrannol yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau ac mae’n rhywbeth gwych i’w roi ar eich CV.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r ymgeisydd naill ai fod wedi derbyn Ysgoloriaeth Mynediad y Brifysgol mewn Ffiseg neu Fathemateg, neu wedi cael o leiaf dwy radd A, ac mae’n rhaid i un o’r rhain fod mewn Ffiseg. Bydd y wobr yn cynnig £500 y flwyddyn trwy gydol eich cynllun gradd (tair neu bedair blynedd) a gellir ei ddal gydag unrhyw wobr israddedig arall. Caiff y myfyrwyr gadw’r wobr os ydynt yn cael cyfartaledd o 70% neu uwch yn yr arholiadau bob blwyddyn. Mae myfyrwyr anrhydedd cyfun yn gymwys am £250 y flwyddyn.
Efallai y dyfernir gwobrau eraill hefyd yn ôl penderfyniad yr Adran.