Dysgu o Bell

Dysgu o Bell

Mae ein cyrsiau Dysgu o Bell yn rhoi modd i chi ddatblygu eich gyrfa academaidd neu broffesiynol, ar eich telerau chi eich hun.

Mewn byd modern lle mae amser yn brin, mae ein cyrsiau Dysgu o Bell wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch bywyd prysur – cewch hyblygrwydd ar y cyd â rhaglen astudio gadarn wedi’i hachredu.

Felly, hyd yn oed os ydych mewn cyflogaeth amser llawn, yn byw i ffwrdd o Aberystwyth neu’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ein nod yw gwneud astudio o bell mor fuddiol a phleserus ag y bo modd.

Ein cyrsiau Dysgu o Bell:

Er bod ein myfyrwyr dysgu-o-bell sy’n astudio’r Gyfraith neu Astudiaethau Gwybodaeth yn dod i ysgolion astudio preswyl, mae cyrsiau yn y Gwyddorau Amaethyddol yn gyfan gwbl ar-lein. Cefnogir pob cwrs gan gyfleusterau cynadledda ar y we sy’n rhoi modd i’r myfyrwyr gyfathrebu â’i gilydd ac â thiwtoriaid y cwrs, gan leihau’r ymdeimlad o unigrwydd y gall dysgwyr o bell ei deimlo weithiau.

Pan fydd angen mynychu ysgolion preswyl yn Aberystwyth, mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi modd i chi fynd i’r afael ag astudiaethau achos, trafodaethau ac ymarferion eraill a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r materion a astudir. Maent hefyd yn gyfle perffaith i chi gael arweiniad unigol ar eich gwaith cwrs neu unrhyw beth arall. Darllenwch y disgrifiadau cwrs yn ofalus er mwyn i chi ddeall unrhyw ymrwymiadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud yn hyn o beth.