Amdanom ni

Croeso I Seicoleg yn Prifysgol Aberystwyth

Yn Aberystwyth gallwn gynnig addysg ragorol i chi gan rai o’r ymchwilwyr gorau yn eu maes, mewn ardal o harddwch eithriadol, a’r berthynas gymunedol agos a geir rhwng staff a myfyrwyr yr Adran.

Rydym yn Adran Seicoleg sy'n tyfu'n gyflym gyda sgôr bodlonrwydd cyffredinol o 92% (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022).

Mae lle rydych yn astudio yn bwysig, oherwydd mae’r lle yn pennu ansawdd y bywyd y byddwch yn ei fwynhau, y cyfleoedd a gynigir i chi a’r amser sydd ar gael ar gyfer astudio’n academaidd a datblygu’n bersonol. Mae tref Aberystwyth wedi’i lleoli ar lannau Bae Ceredigion yng ngorllewin Cymru, mewn amgylchedd naturiol mor drawiadol, mae’r ardal leol yn cynnig arfordir braf gyda gweundiroedd bryniog a dyffrynnoedd coediog gerllaw.Mae holl gyrsiau'r adran wedi ei hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, sy’n nod ansawdd a gydnabyddir yn eang gan gyflogwyr yn y byd proffesiynol ac sy’n rhoi’r cyfle i raddedigion yr Adran fod yn aelodau graddedig a/neu siartredig o’r gymdeithas. Mae achrediad gan y Gymdeithas yn bwysig i fyfyrwyr Seicoleg sydd eisiau cynifer o opsiynau â phosibl yn y dyfodol