Pum Aelod Newydd o Staff i Atgyfnerthu’r Adran o fis Medi

10 Gorffennaf 2012

Bydd Seicoleg yn cael hwb ychwanegol gyda phedwar aelod newydd o staff academaidd ac un aelod newydd o staff technegol. Bydd y cynnydd hwn yn staff yr adran yn cynorthwyo cais yr adran i gael ei hachredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain. O 2013-14 ymlaen bydd amrywiaeth ehangach o ddewisiadau modiwlau ar gael wrth i fodiwlau newydd gael eu cymeradwyo dros y flwyddyn nesaf. Dyma’r wynebau newydd yn yr adran:

Dr David Tod – yn ymuno â Seicoleg o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Dr Nigel Holt – ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Sba Caerfaddon

Dr Verena Pritchard – ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Canterbury, Seland Newydd

Dr Rachel Horsley – ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Nottingham Trent

Rydym hefyd wrth ein bodd o gael croesawu’r Dr Tim Wells (Prifysgol Nottingham Trent) a fydd yn darparu cymorth technegol a chymorth ymchwil i fyfyrwyr a’r staff.