Adran Seicoleg yn Dathlu ei Huwchraddedigion Cyntaf

Pennaeth yr Adran, Dr Kate Bullen, gydag ymgeisydd Ph.D cyntaf Seicoleg; llongyfarchiadau i’r Dr. Tamsin Williams.

Pennaeth yr Adran, Dr Kate Bullen, gydag ymgeisydd Ph.D cyntaf Seicoleg; llongyfarchiadau i’r Dr. Tamsin Williams.

10 Gorffennaf 2012

Erbyn hyn gall Seicoleg ychwanegu ei myfyrwraig uwchraddedig gyntaf at ei rhestr o lwyddiannau ers iddi ddod yn adran annibynnol yn 2008; cyn hynny bu’n ganolfan o fewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Cymhwysodd Tamsin Williams am ddoethuriaeth mewn Seicoleg y mis Gorffennaf yma, ac fe fydd yn ymuno â thîm Seicoleg ym mis Medi fel darlithydd iau. Dirywiad niwrolegol mewn artistiaid yw maes arbenigedd Tamisin, o ganlyniad i glefydau Parkinson ac Alzheimer yn benodol. Prif bwnc ei hymchwil oedd canfod dirywiad niwrolegol yn gynnar drwy ddadansoddi paentiadau yn ffractal.