Clirio UCAS ac Addasu UCAS 2013

Clearing 2013

Clearing 2013

19 Gorffennaf 2013

Y llynedd, defnyddiodd tua 53,000 o fyfyrwyr y Deyrnas Unedig drefn Glirio UCAS i ddod o hyd i’r radd berffaith iddyn nhw: nid ydych ar eich pen eich hun os ydych yn chwilio am gwrs drwy drefn Glirio UCAS 2013 neu Addasu UCAS.

Ond sut mae dod o hyd i’r brifysgol orau drwy drefn Glirio UCAS eleni? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r brifysgol iawn a’r cwrs iawn i’w astudio. Os ydych yn chwilio am gyfleusterau rhagorol, amgylchedd unigryw, rhagolygon cyflogaeth da ar ôl graddio ac un o’r llefydd gorau i fyw yn y Deyrnas Unedig, yna astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd un o’r penderfyniadau gorau a wnewch chi erioed. Gwyliwch yfideosam wybodaeth ambeth i'w wneudneu i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ym Mhrifysgol Aberystwyth, ffoniwch ein rhif ffôn arbennig ar gyfer Clirio: 0800 121 40 80