Yr Adran Seicoleg yn croesawu cynhadledd fyfyrwyr ar gyfer y BPS

Taflen y Gynhadledd Fyfyrwyr

Taflen y Gynhadledd Fyfyrwyr

14 Ionawr 2014

Detholwyd Prifysgol Aberystwyth i gynnal cynhadledd fyfyrwyr flynyddol 2014 Cangen Cymru y BPS ddydd Sadwrn 26ain o fis Ebrill, 2014. Y gynhadledd hon fydd y digwyddiad mawr cyntaf i Aberystwyth gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain ers i'r Adran Seicoleg (hefyd yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Dynol) gael achredu ei graddau israddedig ym mis Mehefin, 2013.

Meddai Cyfarwyddwraig Sefydliad y Gwyddorau Dynol, yr Athro Kate Bullen, "Mae'r Adran Seicoleg wrth ei bodd i gynnal y digwyddiad ac edrychwn ni ymlaen at groesawu myfyrwyr o bob rhan o Gymru i Aberystwyth i gyflwyno eu gwaith nhw. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r gwaith caled a'r ymroddiad mae eu hangen i ddatblygu ac i draddodi prosiect ymchwil israddedig eithriadol. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i gydweithio â'u cyd-fyfyrwyr o bob rhan o Gymru ac i gyflwyno a dathlu eu llwyddiannau."

Mae myfyrwyr o brifysgolion Cymru wedi eu gwahodd i gyflwyno canlyniadau prosiectau blwyddyn olaf eu graddau BSc, neu eu traethodau ymchwil MSc, megis posteri neu bapurau byrion. Cynhelir y gynhadledd ar gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, sydd uwchben tref Aberystwyth a Bae Ceredigion.