Adran Seicoleg yn cynnal Diwrnod y Menywod 2014

24 Chwefror 2014

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned leol, ar y thema “Cynnydd”.

Cynhelir y digwyddiadau rhwng y 3ed a’r 9fed o fis Mawrth a byddant yn cynnwys sesiynau ragflas, arddangosfeydd, trafodaethau, darlleniadau, gorymdeithiau, gwylnosau, adloniant, cystadlaethau, teithiau cerdded ac anerchiadau gan siaradwyr mewnol ac allanol.

Mae croeso i bawb i’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau – gweler y rhaglen i gael manylion.

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at: Dr Rachel Horsley (rrh10@aber.a.uk)

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy'r cysylltau canlynol:

Dilynwch IWD ar Facebook a’r Trydar #aberIWD