Ystafelloedd a Labordai

Mae nifer o ystafelloedd a labordai y gellir eu harchebu yn yr Adran er mwyn dy gynorthwyo â’th astudiaethau.

Mae pob un o’r ystafelloedd hyn wedi’u cynllunio’n benodol i gynnal mathau penodol o arbrofion neu gyfweliadau ar gyfer dy gwrs. Gellir archebu’r ystafelloedd hyn o bell trwy system SONA a system y calendr archebu ystafelloedd.

Sut y gallaf weld Calendrau Ystafelloedd ar Webmail?

System BioPac MP150

Ystafell BioPac 0.25, P5

Un ffordd o astudio testunau seicolegol yw trwy gasglu data ffisegol. Gall hyn gynnwys y chwys sydd ar dy ddwylo, dy guriad calon neu amryw o ffactorau eraill. Mae ein system BioPac yn ein galluogi i fesur a gweld hyn mewn amser real neu arbed data er mwyn ei ddadansoddi maes o law. Mae hyfforddiant yn hanfodol cyn y caniateir defnyddio’r cyfarpar ac mae modd trefnu’r hyfforddiant hwnnw drwy ebost neu’n uniongyrchol gyda’n technegydd adrannol.

Tobii TX300

Ystafell Eye Tracker 0.29, P5

Mae ble rwyt yn edrych yn dweud llawer wrthym ynghylch y prosesau meddyliol sy’n digwydd yn dy ymennydd. Gall ein olrheiniwr llygad ar ffurf sgrîn ddarparu gwybodaeth 300 gwaith mewn eiliad, a’n galluogi i gasglu data o safon ymchwil ragorol. Mae hyfforddiant yn hanfodol cyn gellir defnyddio’r cyfarpar hwn ac mae modd trefnu’r hyfforddiant hwnnw drwy ebost neu gyda’n technegydd adrannol.

System Rheolydd Fideo & Ystafell Golygu Fideo

Ystafell Rheolydd Fideo 0.52, P5

Fel ymchwilydd, ar adegau bydd angen i ti arsylwi ar ymddygiad heb i ti fod yn yr ystafell yn dylanwadu’n ddiarwybod ar yr ymddygiad hwnnw. Mewn seicoleg, gwneir hyn yn aml naill ai gan ddefnyddio drych dwyffordd, neu, yn ein hachos ni, gan ddefnyddio Ystafell Rheolydd Fideo er mwyn gweld camerâu mewn gwahanol ystafelloedd yn ein hadran. Wrth gwrs, dylid gwneud hyn ar ôl cael caniatâd yr unigolyn sydd yn yr ystafell. Mae hefyd nifer o gyfrifiaduron Apple manyleb uchel yn yr Ystafell Rheolydd Fideo, ac maent yno er mwyn golygu fideos i ddarparu ysgogiad ar gyfer ymchwil a dadansoddiad.

Siambr Anatseiniol

Ystafell 0.54, P5

Wrth gynnal arbrofion gyda phobl, mae wastad posibilrwydd y gall ymyriadau achosi problemau. Mae hyn yn sylweddol bwysig i’w ystyried os yw’r arbrawf yn defnyddio neu’n seiliedig ar sain. Mae ein ystafell anatseiniol yn ein galluogi i gynnal arbrofion mewn amgylchedd tawel heb unrhyw ymyriadau sain neu weledol.

Labordy Datblygiad Plentyn

Ystafell 0.27, P5

Os wyt yn dymuno cael profiad o weithio gyda phlant ifanc mewn ymchwil / cyd-destunau clinigol, mae’r labordy datblygiad plentyn yno i ddarparu’r cyfle hwnnw. Yno, byddi gan amlaf yn gweithio gyda phlant yn amrywio o 2-8 mlwydd oed sydd yn arddangos datblygiant nodweddiadol neu blant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, ynghyd â rhai anhwylderau eraill megis nam ieithyddol penodol. Mae’r ystafell hon wedi’i pharatoi er mwyn dy gynorthwyo wrth i ti weithio gyda’r plant hyn. Mae modd i ti gynnal profion seicometrig ieithyddol (gan ddefnyddio ein casgliad o brofion seicometrig) a’u defnyddio ar gyfer traethodau estynedig os oes angen. Ceir hefyd Mac â sgrîn gyffwrdd er mwyn cynnal tasgau cyfrifiadurol sy’n addas i blant, ynghyd â thasgau creadigol gan ddefnyddio gwrthrychau go iawn.

Gofod Recordio Ymchwil Ansoddol

Labordy Ansoddol 0.51, P5

Mae cyfweliadau a thrafodaethau grŵp yn elfennau pwysig mewn seicoleg, ac mae sicrhau gofod ar gyfer cynnal y gweithgareddau hyn yn hynod bwysig. Ystafell sydd o faint cyfforddus i grwpiau bychain, gyda seddi cyfforddus yw’r Labordy Ansoddol. Mae’r nodweddion hyn yn ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal cyfweliadau a thrafodaethau grŵp. Mae yno hefyd system recordio sain sy’n cael ei reoli gan sgrîn gyffwrdd syml a meicroffon o safon uchel a fydd yn sicrhau y bydd recordiadau’n safonol wrth wrando’n ôl arnynt.

Ystafell Gyfrifiaduron

Ystafell 0.61, P5

Ynghyd â chael ei defnyddio ar gyfer amryw o sesiynau dysgu a sesiynau ymarferol, mae’r ystafell gyfrifiaduron yn agored i ti pan nad yw’n cael ei defnyddio. Mae ganddi nifer o gyfrifiaduron sydd â sgriniau plygu a holl feddalwedd safonol y Brifysgol i’w ddefnyddio. Mae yn yr ystafell system daflunio i ymarfer rhoi cyflwyniadau pe byddet yn dymuno.

Gofod Paratoi Bwyd

Bio-Gegin, Ystafell 0.22, P5

Ar adegau mae angen cynhyrchu ysgogiad ar gyfer blas neu arogl, a gellir gwneud hyn yn ein Bio-Gegin. Mae’r gegin yn cael ei chadw dan glo rhag defnydd cyffredinol dydd i ddydd er mwyn sicrhau nad oes gan y bwyd a gynhyrchir i ddibenion ymchwil unrhyw flas neu arogl a ddylanwadwyd gan fwydydd eraill. Mae gan yr ystafell hefyd glawr-ddor sy’n arwain i giwbicl ymchwil ble gall cyfranogwyr eistedd.

Ciwbiclau Ymchwil

Ystafelloedd: 0.31, 0.32, 0.33, 0.35, 0.40, 0.42, 0.43, 0.44 yn P5

Naill ai fel gofod ar gyfer cyflawni tasgau cyfrifiadurol neu fel man tawel i astudio, mae ein ciwbiclau ymchwil yn rhad ac am ddim i’w defnyddio a gellir eu harchebu trwy ein system calendr archebu.