Gwasanaethau Ymgynghorol a Dadansoddi
Gwasanaethau i Fusnesau
Gall cwmnïau fanteisio ar y gronfa fawr o arbenigedd sydd gan Brifysgol Aberystwyth trwy drefnu bod gwaith ymgynghorol yn cael ei gyflawni gan arbenigwr priodol. Gall yr arbenigw(y)r a ddewisir ymchwilio i broblemau penodol a chynnig barn a chyngor arbenigol.
Fel rhan o wasanaeth cynhwysfawr, gall y tîm GMY eich helpu i benderfynu pa arbenigedd academaidd yr ydych ei angen, hwluso’r ymgynghoriad a sicrhau bod cyfrinachedd ac eiddo deallusol yn cael eu hamddiffyn. Cyflawnir ein holl waith ymgynghorol i’r safonau proffesiynol uchaf.
Cynnig Gwasanaethau Ymgynghorol
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod arbenigedd ar gael i gwmnïau cleient lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy gynnig gwasanaethau ymgynghori.
Mae llawer o fanteision i staff sy’n ymgymryd ag ymgynghoriaeth gan gynnwys:
- meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat
- darparu cyfrwng ar gyfer adborth i ymchwil ac addysgu
- datblygiad personol
Os ydych yn Aelod o Staff Aberystwyth a bod rhywun wedi cysylltu â chi ynglŷn â darparu Gwasanaethau Ymgynghori, cliciwch yma i ddysgu mwy am broses PA.
I ddysgu mwy am y gwasanaethau ymgynghorol sydd ar gael, cysylltwch â:
Chris Heidt, Rheolwr Contractau - cah@aber.ac.uk