Creu cysylltiadau.

Cyfnewid gwybodaeth.

Cyflawni mwy ar y cyd.

Mae’r Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth yn creu cyfleoedd arloesol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gydweithredol o fewn prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil.

 

Drwy gynllunio a hwyluso digwyddiadau, darparu cyfleoedd hyfforddiant a chysylltu ymchwil, busnes, polisi, cymdeithas sifil a defnyddwyr terfynol eraill mewn ffyrdd sy’n cofleidio proses ac arfer deialog, rydym yn cydweithio i chwilio am atebion Cymreig i broblemau’r byd.

Ein hamcanion

 

Mae’r Ganolfan Ddeialog yn gweithio yn y Brifysgol a’r tu allan iddi i gefnogi cyfnewid gwybodaeth gydweithredol ar gyfer datblygu economïau cynaliadwy, annog dinasyddion gweithredol a gwella ansawdd bywyd yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt.

O ofod pwrpasol ar y campws a’n darpar gartref ar bromenâd Aberystwyth, bydd y Ganolfan Ddeialog yn datblygu’n fagned byd-eang ar gyfer arloesi  ym maes cyfnewid gwybodaeth ac arfer a hwyluso deialog.

 

“Mae ein gwaith yn seiliedig ar fodelau deialog a thrafodaeth sy’n cael eu defnyddio’n llwyddiannus ledled y byd.

Mae’r broses yn cymryd mwy o amser, ond mae’r canlyniadau yn tueddu i fod yn fwy arloesol ac yn haws i’w rhoi ar waith.”

Dr Jennifer Wolowic

Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog

Ein Gweithgareddau

 

Mae deialog yn llywio popeth rydym yn ei wneud. Rydym yn defnyddio deialog i atgyfnerthu cyfnewid gwybodaeth mewn pedwar maes allweddol:

  • Ymchwil
  • Menter
  • Sgiliau
  • Trafodaeth