Digwyddiadau Yn y dyfodol a Newyddion Mynediad Agored

Cais am adborth

Mae PA yn diweddaru ei Pholisi Mynediad Agored yng ngoleuni'r dirwedd Mynediad Agored sy'n newid. Yn ddiweddar, cyhoeddodd UKRI ei ofynion Mynediad Agored newydd ac mae cyllidwyr eraill (gan gynnwys CCAUC a Research England) yn gwneud yr un peth.

Mae wythnos olaf mis Hydref yn Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol ac mae hyn yn cyflwyno cyfle amserol i Weithgor Mynediad Agored PA geisio cael adborth a syniadau ar sut y dylai'r Polisi newydd hwn edrych a pha agweddau ar Ymchwil Agored y dylai eu cynnwys.  Cymerwch gipolwg ar y Polisi UKRI (Saesneg) newydd, polisi cyfredol PA, ac efallai ar Strategaethau neu Bolisïau Mynediad Agored Sefydliadau Addysg Uwch eraill neu ddatganiadau safle trosfwaol ar Ymchwil Agored.

Bydd y Gweithgor Mynediad Agored yn derbyn adborth (i openaccess@aber.ac.uk) tan ddiwedd mis Tachwedd, ac ar ôl hynny bydd y Grŵp yn dod at ei gilydd i ymgorffori’r safbwyntiau ym mholisi Mynediad Agored newydd PA sy'n cwmpasu'r holl gyhoeddiadau ymchwil.