Canolfan Ymchwil Datblygu Rhyngwladol Yn Aberystwyth (Cydrha)

Mae Canolfan Ymchwil Datblygu Rhyngwladol yn Aberystwyth (CYDRhA) yn cefnogi ymchwil sydd ar flaen y maes sy’n gwella bywydau pobl mewn gwledydd Incwm Isel a Chanolig (IICh).

Rydym yn cynorthwyo ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth, a’u partneriaid mewn gwledydd IICh, i ddatblygu ffyrdd newydd o wella iechyd byd-eang, systemau bwyd sydd yn ddiogel a gwydn, amddiffyn yr amgylchedd, hybu heddwch a diogelwch, ac ymdrin â heriau byd-eang eraill.

Mae CYDRhA wedi cefnogi 33 prosiect ymchwil. Cliciwch ar y pinnau ar y map isod i gael gwybod mwy am bob prosiect, ac mae croeso i chi gysylltu â’r Prif Ymchwilwyr am ragor o wybodaeth.

Mae pedwar o brosiectau CYDRhA wedi paratoi fideos byrion i roi mwy o wybodaeth am eu gwaith ymchwil (isod).

Cyfleoedd am Gyllid

Does dim cyfleoedd am gyllid ar hyn o bryd.

Rhoddir gwybod i staff ymchwil drwy’r Newyddlen Ymchwil os bydd mwy o’r cyfleoedd ymchwil hyn ar gael

Manylion Cynlluniau Cyllid Blaenorol  

Roedd croeso i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wneud cais am chwe chynllun grant mewnol;  roedd pob un wedi’i lunio i annog ymchwil a fyddai’n gwella bywydau pobl dlawd mewn gwledydd Incwm Isel a Chanolig (IICh). Bu’n rhaid i’r holl geisiadau am gyllid ddangos sut roeddent yn bodloni meini prawf y Cymorth Datblygu Swyddogol. Roedd hyn yn cynnwys sut y gallent greu effaith sylweddol a chynaliadwy wrth fynd i’r afael ag un o'r heriau ym maes datblygu a wynebid gan wlad neu wledydd ar Restr DAC yr OECD o Dderbynwyr Cymorth Datblygu Swyddogol. Roedd pob prosiect yn gorfod canolbwyntio ar un o’r Meysydd Her y Gronfa Ymchwil. Rhoddodd y Cwestiynau Cyffredin fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Grant Rhwydweithio:  Roedd y grant hwn yn cefnogi gwaith i sefydlu rhwydweithiau ymchwil a fyddai’n ystyried thema neu brosiect cydweithredol. Gweler y ffurflen gais am ragor o wybodaeth.

Grant Sbarduno:  Diben y grant hwn oedd cynnig cymorth i ddatblygu syniadau newydd sydd angen eu profi, neu i arbrofi â data neu i gynnal gwaith datblygu arall drwy ymchwil er mwyn gwireddu eu potensial am gyllid allanol. Gweler y ffurflen gais am ragor o wybodaeth.

Grant Datblygu Effaith:  Nod y grant hwn oedd helpu ymchwilwyr i gynyddu effaith prosiectau ymchwil sy'n cydymffurfio â gofynion Cymorth Datblygu Swyddogol, neu i gasglu tystiolaeth o'u heffaith. Gweler y ffurflen gais am ragor o wybodaeth. Gweler Buddsoddi i Greu Effaith i weld manylion cyfleoedd eraill am gyllid sy'n gysylltiedig ag effaith ac sydd ar gael i staff academaidd y Brifysgol ym mhob maes ymchwil (gan gynnwys ymchwil sy'n gymwys am Gymorth Datblygu Swyddogol).

Cyllid Dilynol:  Roedd y grant hwn yn darparu cyllid atodol neu ddilynol ar gyfer prosiectau ymchwil cyfredol neu brosiectau a oedd newydd eu cwblhau, megis prosiectau CYDRhA, neu brosiectau a ariannwyd yn allanol drwy’r Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang neu Gronfa Newton. Gweler y ffurflen gais am ragor o wybodaeth.

Grant Hyblygrwydd: Diben y grant hwn oedd darparu symiau bach o arian ar fyr rybudd i ymchwilwyr, er mwyn iddynt allu rhwydweithio, cynnal gweithgareddau ymchwil neu weithgareddau i gynyddu effaith ymchwil. Gweler y  ffurflen gais am ragor o wybodaeth.

Cyllid Ymateb Brys:  Nod y grant hwn oedd datblygu ein gallu yn y Brifysgol i ymateb yn gyflym i argyfyngau mewn gwledydd IICh lle y byddai angen ymchwil ar frys. Gweler y ffurflen gais  am ragor o wybodaeth.

Partneriaethau Sefydliadol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn awyddus i sefydlu nifer fechan o bartneriaethau hirdymor mewn gwledydd Incwm Isel a Chanolig (IICh). Mae gennym un bartneriaeth â Phrifysgol Namibia. O ganlyniad mae ymweliadau ymchwil rhwng y ddau sefydliad wedi’u cynnal ac mae pedwar prosiect rhagbrofol ar waith i hybu systemau bwyd diogel a gwydn, iechyd milfeddygol, ac amddiffyn adnoddau morol. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau ar y map sydd ar frig y tudalen.

Ymweliad ymchwil gan bum ymchwilydd o Brifysgol Namibia â Prifysgol Aberystwyth yn 2019