Cronfa Gynadledda

Nod y gronfa hon yw darparu cyfraniad tuag at treuliau aelodau staff sy'n mynychu Cynadleddau Ymchwil, yn enwedig y rhai a fydd yn gwella proffil ymchwil yr unigolyn. 

  • Dim ond un cais llwyddiannus y flwyddyn ariannol academaidd
  • Fe ddetholir y gwobrau a rhoddir blaenoriaeth i'r rheini sydd â chofnod ymchwil cryf ac sy'n cyflwyno papurau.
  • Fel arfer, ni fydd y gronfa hon yn cefnogi'r presenoldeb mewn cynadleddau sy'n gysylltiedig ag addysgu israddedig.
  • Gellir defnyddio'r Gronfa Gynhadledd hefyd i alluogi mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.
  • Gobeithir y rhoi’r rhywfaint o gefnogaeth i’r mwyafrif o ymgeiswyr, mae’r arian yn gyfyngedig.

Gwneud Cais

  • Lawrlwythwch y ffurflen Cais Cronfa Cynadleddau | Conference Fund Application
  • Dylid llenwi, llofnodi a chyflwyno’r ffurflen hon yn electronig i'ch Pennaeth Adran am sylwadau, yn gyfrinachol, ar safon y gynhadledd a'r ymgeisydd.
  • Dylai Penaethiaid adrannau anfon y cais wedi'i lofnodi i YB&A drbi@aber.ac.uk
  • Rhaid i bob cais gynnwys amcangyfrifon o gostau teithio, cynhaliaeth a chofrestru.
  • Gellir cyflwyno ceisiadau yn fisol erbyn y 1af o bob mis. Disgwylir ateb mewn uchafswm o 6 wythnos.
  • Os bydd nifer o aelodau o'r un adran am fynychu cynhadledd, dylid ymgynghori â YB&A yn gynharach.

Pwy sy'n Gymmwys?

Fel rheol bydd cefnogaeth gan y  Gronfa Gynadledda yn cael ei gyfyngu i staff academaidd sy'n aelodau o adrannau academaidd nac yw eu swyddi yn cael eu hariannu gan gontractau allanol.

Meini Prawf Detholus

Rhoddir blaenoriaeth i aelodau staff sy:

  • wedi cael papur/poster wedi'i dderbyn neu'n cymryd rhan flaenllaw mewn cyfarfod neu gynhadledd; NEU
  • â chofnod cyhoeddi cryf diweddar mewn cyfnodolion a gydnabyddir yn rhyngwladol (neu eu cyfwerth);NEU
  • wedi cael cyfnod estynedig ddiweddar o absenoldeb o'i hymchwil yn ar gyfer rhesymau rhiant/iechyd neu gofalu.(4 mis neu fwy)

Dylai ymgeiswyr wneud cais, ar yr un pryd, â ffynonellau allanol eraill, pan mae hynny'n ymarferol, ac yn enwedig mewn achosion o gynhadleddau rhyngwladol drud.

Manylion Ariannol

Uchafswm gwerthoedd dyfarniad

(ar gyfer cyfarfod / cynhadledd lle mae cyfranogiad gweithredol yn gysylltiedig)

- Y Deyrnas Unedig - £ 600

- Rhyngwladol - £ 2000

 

Mae'r canlynol yn gostau cymwys:

1. Teithio 

2. Treuliau Cynhaliaeth

3. Ffioedd Cynadledda

  •  Bydd ffioedd cynadledda rhesymol yn cael eu had-dalu

Ffynhonellau eraill o Gymorth

Mae'r Gronfa Gooding yn gymynrodd i gefnogi aelodau staff yn y Disgyblaethau Gwyddonol, ac weithiau myfyrwyr ymchwil, sy’n mynychu cynadleddau academaidd. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau staff ac fel eithriad y bydd myfyrwyr ymchwil yn cael eu hariannu. Dylai staff wneud pob ymdrech i sicrhau cyllid allano,l a dylent weld y gronfa fel ffordd o wneud lan unrhyw ddiffyg. Efallai y bydd rhwng £ 100 a £ 300 y person ar gael i gyfrannu at gostau.

I wneud cais am gefnogaeth, llenwch y ffurflen gais a'i chyflwyno i drbi@aber.ac.uk