Cronfa Gooding
Mae Cronfa Gooding yn gymynrodd i gefnogi aelodau o staff mewn adrannau gwyddoniaeth, ac yn achlysurol myfyrwyr ymchwil, sy’n mynychu cynadleddau academaidd. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan aelodau o staff, ac ariennir myfyrwyr ymchwil dan amgylchiadau eithriadol yn unig.Nodir, dim ond un cynnig llwyddianus y fwyddyn a ganiateir. Dylai unrhyw un sy’n chwilio am gymorth ariannol ysgrifennu at yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi (RB&I) gan ddarparu manylion am y gynhadledd, natur eu cyfranogiad a’r costau cysylltiedig. Mae’n bosib y bydd rhwng £100 a £300 ar gael i gyfrannu tuag at y costau. Dylai staff wneud pob ymdrech i sicrhau cyllid allanol, a dylid gweld y gronfa fel ffordd o dalu am unrhyw ddiffyg. Gofynnir i’r rhai sy’n derbyn y cymorth ariannol hwn gyflwyno adroddiad cryno ar y gynhadledd at RB&I wedi iddynt ddychwelyd.
Pwy sy’n gymwys?
Aelodau o staff a myfyrwyr ymchwil sy’n gweithio yn y gwyddorau.
Gwerth
|
Ewrop |
UDA ac eraill |
Staff a Myfyrwyr Ôl-ddoethurol |
£150-£200 |
£200-£300 |
Myfyrwyr Uwchraddedig |
£100-£150 |
£150-£200 |
Sut i wneud cais
Cais Cronfa Gooding Fund Application
Llenwch y ffurflen gais, gofynnwch i’ch Pennaeth Adran ei llofnodi ac yna cyflwynwch hi’n electronig i drbi@aber.ac.uk. Gellir cyflwyno ceisiadau yn fisol erbyn y 1af o bob mis. Disgwylir ateb mewn uchafswm o 6 wythnos.