Horizon Europe

Horizon Europe yw rhaglen ymchwil ac arloesi saith mlynedd nesaf yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn rhedeg o 2021 i 2027 gyda chyllideb o € 95.5 biliwn. Amcan cyffredinol y rhaglen yw cyflawni gwyddonol, technolegol, economaidd ac effaith gymdeithasol buddsoddiadau'r Undeb mewn Ymchwil a Datblygu, i gryfhau seiliau gwyddonol a thechnolegol yr Undeb, a meithrin ei gystadleurwydd.

Diweddariad ar gyllid Horizon Chwefror 2023

Mae'r diweddariad hwn yn edrych yn gyffredinol ar:

  1. Y cyllid sy'n dal ar gael i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig drwy raglen Horizon Europe (2021-27).
  2. Y sefyllfa bresennol o ran cysylltiad y Deyrnas Unedig â'r cynllun ac ariannu ceisiadau llwyddiannus.

Strwythur ariannu Horizon:

Mae gan Horizon Europe 3 piler -

  1. Excellent Science pillar yn cefnogi prosiectau ymchwil ffiniol sydd wedi'u cynllunio a'u gyrru gan ymchwilwyr trwy'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC). Mae hefyd yn ariannu cymrodoriaethau a symudedd ymchwilwyr trwy Marie Skłodowska-Curie Actions, ac yn buddsoddi mewn seilweithiau ymchwil o'r radd flaenaf
  2. Global Challenges and European Industrial Competiveness pillar yn cefnogi ymchwil i heriau cymdeithasol, yn atgyfnerthu galluoedd technolegol a diwydiannol, ac yn gosod cenadaethau ledled yr UE gyda nodau uchelgeisiol sy'n mynd i'r afael â rhai o'n problemau mwyaf (iechyd, newid yn yr hinsawdd, ynni glân, symudedd, diogelwch, digidol, deunyddiau, ac ati)
  3. Innovative Europe pillar yn anelu at wneud Ewrop yn flaenllaw ym maes arloesi sy'n creu marchnad a thwf busnesau bach a chanolig trwy'r Cyngor Arloesi Ewropeaidd. Bydd yn helpu i ddatblygu tirwedd arloesi Ewropeaidd yn gyffredinol. Bydd y Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewropeaidd (EIT) yn parhau i feithrin integreiddiad busnes, ymchwil, addysg uwch ac entrepreneuriaeth

Mae gan raglen Horizon nifer o gyfleoedd i ennill cyllid grant ymchwil. Bydd galwadau newydd yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf ar gyfer cyfleoedd yn Rhaglen Waith 2023/24, a gadarnhawyd ym mis Rhagfyr 2022.

 

Colofn 1:

Gwyddoniaeth Wych

 Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)   

 

 Grantiau Marie Sklodowska-Curie   

 

 

Colofn 2:

Heriau Byd-eang a Chystadleurwydd Diwydiannol Ewropeaidd

Grantiau cyllid consortiwm wedi’u grwpio’n 6 chlwstwr:

  1.  Iechyd
  2.  Diwylliant, Creadigrwydd a Chymdeithas Gynhwysol
  3.  Diogelwch Sifil i Gymdeithas
  4.  Digidol, Diwydiant a Gofod
  5.  Hinsawdd, Ynni a Symudedd
  6.  Bwyd, Bioeconomi, Adnoddau Naturiol, Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd

 

Colofn 3:

Ewrop Arloesol

 Sefydliad technoleg ac arloesi Ewropeaidd - Cymuned gwybodaeth ac arloesi   

 

 Ecosystemau Arloesedd Ewropeaidd

 

Euratom

 Rhaglen Ymchwil a Hyfforddiant Euratom

 ITER

Copernicus

Copernicus

 

Cenadaethau Horizon - 

Yn ogystal â'r 6 chlwstwr ar gyfer cynigion cydweithredol yng ngholofn 2 a amlygwyd uchod, mae'r Comisiwn Ewropeaidd hefyd wedi cyhoeddi pum Cenhadaeth gyffredinol yn ddiweddar.

5 Cenhadaeth yr UE

     1. Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd: cefnogi o leiaf 150 o ranbarthau a chymunedau Ewropeaidd i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd erbyn 2030

Fideo diwrnod gwybodaeth

     2. Canser: gweithio gyda Chynllun Curo Canser Ewrop i wella bywydau mwy na 3 miliwn o bobl erbyn 2030 trwy atal, iachau a chanfod datrysiadau er mwyn i bobl fwy'n hirach ac yn well

Fideo diwrnod gwybodaeth

     3. Adfer ein Cefnfor a'n Dyfroedd erbyn 2030

Fideo diwrnod gwybodaeth

     4. 100 o Ddinasoedd Clyfar a Niwtral o ran yr Hinsawdd erbyn 2030

Fideo diwrnod gwybodaeth

     5. Bargen Bridd ar gyfer Ewrop: 100 o labordai byw a goleudai i arwain y newid i briddoedd iach erbyn 2030

Fideo diwrnod gwybodaeth

 

Mae'r galwadau hyn yn cynnig y cyfle i wneud ymchwil mewn meysydd penodol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd trawsddisgyblaethol. Gallai’r rhain apelio at ymchwilwyr/grwpiau sydd eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gydag ymchwilwyr Ewropeaidd neu sy'n awyddus i greu prosiectau ymchwil cydweithredol.

 

Pryd mae'r galwadau’n agor/cau?

Mae'r galwadau sydd newydd agor yn cau rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024 yn dibynnu ar y golofn.

 

Cysylltiad â Horizon Europe (2021-27) beth yw'r sefyllfa bresennol?

Roedd cysylltiad y Deyrnas Unedig â Horizon Europe yn amodol ar gadarnhau'r cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ym mis Ebrill 2021. Fodd bynnag, mae cadarnhad yn dal i ddibynnu'n bennaf ar gytundeb Masnach Gogledd Iwerddon. Hyd nes y gwneir y penderfyniad hwnnw, caiff ymgeiswyr y Deyrnas Unedig ddal i wneud cais am y prosiectau a ddisgrifir uchod fel buddiolwr.

 

Ga’ i wneud cais am gyllid Horizon o hyd?

Cewch! Caiff ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wneud cais am gyllid Horizon Europe fel unigolyn o hyd (grantiau ERC/Marie Sklodowska-Curie Actions) ac fel aelodau o gonsortiwm (Colofn 2 a 3). Rhaid gwneud hyn fel buddiolwr . Mae pob un o'r cynlluniau a restrir yn y tabl uchod yn gymwys i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig.

Caiff ymchwilwyr y Deyrnas Unedig ddal i wneud cais fel cydlynydd prosiect neu arweinydd pecyn gwaith (yn y consortiwm).

Nodir hyn yn glir mewn cyfathrebiad gan y Comisiwn Ewropeaidd (22.12.2022)

...Caiff ymgeiswyr y Deyrnas Unedig eu trin fel pe bai'r Deyrnas Unedig yn wlad gysylltiol drwy gydol y broses, o’r cam o dderbyn a chymhwyso i’r gwerthuso, hyd nes y paratoir y
cytundebau grant. Fodd bynnag, dim ond os daw'r cysylltiad i rym y ceir llofnodi cytundebau grant. Rhoddir yr un driniaeth hefyd i unrhyw ymgeiswyr o wledydd cysylltiol eraill sy'n ymwneud â'r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd mewn proses gymdeithasu weithredol."

 

Beth sy'n digwydd os dyfernir grant cyn i'r cysylltiad gael ei gadarnhau?

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi neilltuo cyllid gwarantu i dalu am ymchwilwyr y Deyrnas Unedig sy’n llwyddo i ennill grantiau ar gyfer prosiectau a ariennir gan Horizon. Ceisir y cyllid hwn pan fydd y Cytundeb Grant yn cael ei lofnodi.

Ar y pwynt hwnnw:

  • Mae'r partner yn y Deyrnas Unedig yn gwneud cais am gyllid Gwarantu’r Deyrnas Unedig gan UKRI.
  • Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn ildio unrhyw swyddogaeth fel cydlynydd i bartner Ewropeaidd ond gallant barhau i weithredu fel arweinydd pecyn gwaith.

 Bydd y warant bellach mewn grym ar gyfer holl alwadau Horizon Europe am gyllid sy'n cau ar neu cyn 30 Mehefin 2023.

 https://www.gov.uk/government/publications/supporting-uk-rd-and-collaborative-research-beyond-european-programmes

 

Beth fydd yn digwydd os na fydd y Deyrnas Unedig yn dod yn wlad gysylltiol i Horizon Europe?

Os na chaiff y cysylltiad ei gadarnhau â Horizon, bydd y Deyrnas Unedig yn cael statws Trydedd Wlad, sy’n golygu:

  • Mae ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wedi’u cyfyngu i geisiadau am gyllid yng Ngholofn 2
  • Mae ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wedi'u cyfyngu i alwadau grant sy'n caniatáu ceisiadau o Drydydd Gwledydd.
  • Caiff ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wneud cais o hyd mewn consortiwm ag ymchwilwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd cyn belled â bod nifer partneriaid yr Undeb Ewropeaidd yn bodloni’r meini prawf sylfaenol (3 fel arfer).
  • Bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddisodli gan gyllid llywodraeth y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022.
  • Lle mae rheolau grant yn atal ymchwilwyr y Deyrnas Unedig rhag ymwneud yn uniongyrchol â chais Horizon, mae'n bosib cymryd rhan fel trydydd parti e.e. fel is-gontractwyr.
  • Bydd y cyllid ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 yn cymryd lle cyllid ar gyfer dyfarniadau ERC ac MSCA yng Ngholofn 1 a galwadau am gyllid yng Ngholofn 3. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau sydd eisoes yn weithredol.

 

Er mwyn lliniaru colled cyllid Horizon, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi datrysiad ariannol Cynllun B, ac fe'n sicrheir gan UKRO y bydd yn dod i rym yn ddi-dor os na fydd y Deyrnas Unedig yn dod yn wlad gysylltiol i Horizon Europe.

Ym mis Gorffennaf 2022, sefydlodd llywodraeth y Deyrnas Unedig becyn o fesurau ariannu trosiannol gan gynnwys:

  • Cefnogaeth barhaus ar gyfer ymgeiswyr y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus i Horizon
  • Parhad Cyfranogiad Trydydd Gwledydd yn Horizon Europe                                         

 

Yn ogystal, ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddwyd £0.5 biliwn o gyllid ymchwil ar gyfer sector ymchwil a datblygu’r Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth wedi’i dargedu.

 “Er mwyn cadw staff ac ar gyfer strategaethau talent leol mewn prifysgolion cymwys a sefydliadau ymchwil, Sicrhau bod labordai’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod gyda’r gorau yn y byd ac ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu .”

Mae hyn yn sicrhau cyllid gan lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus i alwadau Horizon fel Trydedd Wlad hyd at o leiaf 31/3/2025.

 

Sut y galla i barhau i gynnal perthynas gyda grwpiau ymchwil Ewropeaidd?

Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd parhaus o ran bod yn wlad gysylltiol ar gyfer Horizon, mae'n bwysig parhau gyda cheisiadau am gyllid drwy Horizon Europe. Mae'n bwysig hefyd cynnal rhwydweithiau gyda chydweithwyr Ewropeaidd, gyda'r nod o wneud ceisiadau i weithio mewn consortiwm gydag ymchwilwyr Ewropeaidd. Er mwyn cynorthwyo i gynnal y cysylltiadau hyn, mae nifer o gronfeydd ar gael i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig er mwyn datblygu a chynnal rhwydweithiau ymchwil gyda phartneriaid Ewropeaidd.

Rhaglenni gwaith wedi cyhoeddu:

PILLAR 1 

ERC Work programme

MSCA Work programme

Research Infrastructure Work programme

 

PILLAR 2 

Cluster 1 Health  

Cluster 2 Culture creativity and inclusive society 

Cluster 3 Civil security for Society

Cluster 4 Digital, Industry & Space 

Cluster 5 Climate, Energy & Mobility 

Cluster 6 Food, Bioeconomy, Natural Resources, Agriculture & Environment  

 

PILLAR 3 

European Innovation Council

European Innovation Ecosystems

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch partneriaid Ewropeaidd

Gyda Horizon Europe a thrafodaethau ehangach y DU-UE yn parhau, rydym yn gwybod ei bod yn amser dryslyd i'r gymuned ymchwil ac arloesi. Felly, byddwn yn darparu cefnogaeth barhaus i ymchwilwyr ac yn cynghori lle bo hynny'n bosibl.

Unrhyw bryderon neu adborth efo partneriaid Ewropeaidd yr hoffech i ni eich helpu â nhw?

Gall UKRO helpu i ddatrys nifer o achosion yn ymwneud â chamdybiaethau, felly os oes gennych bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Scott Tompsett neu Anne Howells a all gysylltu â'n cynrychiolydd UKRO a chynghori.

Galwadau sydd o ddiddordeb i chi

Yn gwe-dudalennau Horizon 2020 , y 'Participant Portal' mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi darparu offeryn chwilio defnyddiol y gall ymchwilwyr ei ddefnyddio i ddod o hyd i eiriau allweddol sydd o ddiddordeb iddynt yn holl is-gynlluniau Horizon 2020: mae’n werth cael golwg arnynt: Offeryn chwilio Horizon 2020

Mae Swyddfa Ymchwil y DU bellach wedi rhyddhau Papurau Cwmpasu ar gyfer arwyddion cynnar o'r meysydd ymchwil gyda blaenoriaeth yn Rhaglen Weithiol 2018-2020. UKRO Papurau Cwmpasu/Rhaglenni Gwaith Drafft H2020 

Cyngor a chymorth arbenigol

  • Cynghorir academyddion sy’n awyddus i wneud cais i gysylltu â staff yr Uned Ewropeaidd europe@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, a dyblu eu siawns o sicrhau cyllid drwy wneud hynny. Pan benodwyd swyddog datblygu dynodedig yn y Brifysgol am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2009, roedd 16 o brosiectau ar waith a oedd yn cael eu hariannu. Ar ddechrau 2014, roedd 44 o brosiectau ar waith ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n fuddsoddiad o €18.25M mewn gwaith ymchwil ac arloesi yn y Brifysgol.

  • Mae’r  yn darparu dros 30 o sesiynau gwybodaeth a digwyddiadau ysgrifennu cynigion mewnol bob blwyddyn(gweler isod) gall ddarparu cyflwyniadau wedi’u teilwra ar gais i unigolion, grwpiau ymchwil, adrannau ac athrofeydd.

  • Mae’r Brifysgol yn aelod corfforaethol o UKRO (Swyddfa Ymchwil y Deyrnas Unedig sydd â’i swyddfa ym Mrwsel), ac felly caiff staff gofrestru – gan ddefnyddio manylion eu cyfrif e-bost ym Mhrifysgol Aberystwyth – i gael negeseuon dyddiol/wythnosol yn rhad ac am ddim a chrynodebau defnyddiol o ddatblygiadau newydd, cyfleoedd ariannu, diwrnodau gwybodaeth, a newyddion am ddigwyddiadau ysgrifennu cynigion rhad ac am ddim, ac mae modd teilwra pob un o’r rhain i gyd-fynd â diddordebau ymchwil.

Mae sawl darparwr allanol yn cynnig hyfforddiant ar agweddau ar Horizon 2020, ond dim ond UKRO sy’n cynnig darpariaeth a) am ddim a b) wedi ei chymeradwyo gan Uned Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth.