Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts

Diben penodol Cymynrodd R. D. Roberts yw:-

Galluogi aelodau o’r staff academaidd uwch, fel arfer wedi iddynt weithio am gyfnod hir a di-dor (chwe blynedd o leiaf) i gyflawni dyletswyddau gweinyddol a rheoli uwch, i wneud cais am absenoldeb ymchwil a chymorth ymchwil, am gyfnod o chwe mis o leiaf, ar gyflog llawn, gyda chostau cyflenwi eu dyletswyddau yn cael eu talu o incwm y gronfa. Rhagwelir y byddai’r cyfnod hwn yn cael ei ychwanegu at gyfnod o absenoldeb Adrannol cronedig o chwe mis, a fyddai’n gwneud cyfanswm yr absenoldeb ymchwil yn un flwyddyn.

 

Diben yr absenoldeb hwn o ddyletswyddau’r Brifysgol fyddai galluogi’r academydd i adfywio’i bortffolio ymchwil. Cyflawnir hyn drwy ddarparu’r costau i’w ryddhau o’i ddyletswyddau dysgu a gweinyddu, ac i helpu i dalu am ymweliadau ag archifau, teithiau maes, offer, costau teithio neu lety. Dyfernir un grant bob blwyddyn drwy gystadleuaeth fewnol. Dyma’r broses ar gyfer gwneud cais:

 

  • Cyn cyflwyno cais, dylai’r aelodau o staff academaidd sy’n gymwys gynnal sgwrs â’r Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, beth amser cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
  • Gan ddefnyddio ffurflen gais safonol y Brifysgol ar gyfer gwneud cais am Absenoldeb Ymchwil, ynghyd â llythyr yn amlinellu pam mae’r ymgeisydd yn gymwys,  dylai unrhyw aelod o staff academaidd sy’n bodloni’r gofynion priodol, ac sydd am wneud cais am gymorth o Gronfa’r Gymynrodd, gyfeirio eu ceisiadau at y Dirprwy Is-Ganghellor yn y lle cyntaf, i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Ymchwil. 
  • Rhaid cyflwyno Adroddiad Terfynol i Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil, a gynhelir ym mis Ionawr, wedi i’r cyfnod o absenoldeb ymchwil ddod i ben.

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau mewn pryd i gael eu hystyried yng nghyfarfod blynyddol y Pwyllgor Ymchwil ym mis Ionawr, yn y flwyddyn academaidd cyn y cyfnod o absenoldeb ymchwil arfaethedig.