Datblygu Busnes a Throsglwyddo Technoleg
Fel catalydd a hyrwyddwr ar gyfer ystod o gyfleoedd cyfnewid gwybodaeth, mae’r tîm Datblygu Busnes o fewn yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn ymgysylltu’n rhagweithiol â sefydliadau allanol i ganfod cyfleoedd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae’r tîm yn gweithio’n agos â chydweithwyr ledled y Brifysgol i ddarparu cymorth a chyngor ar brosiectau sy’n cynnwys trydydd partïon, ac yn croesawu’r cyfle i drafod syniadau am brosiectau a mentrau cydweithredol posibl.
Gweithio gyda byd diwydiant – Sut allwn ni eich helpu?
- Hwyluso Prosiectau Ymgynghori
- Cefnogi Ymchwil Cydweithredol a Chontract
- Adeiladu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
- Amddiffyn a Masnacheiddio Eiddo Deallusol
- Cynghori ar Gyfleoedd Cyllido
Cwrdd â’r tîm
Anne Howells, Rheolwr Datblygu Ewropeaidd a Busnes
Catrin Davies, Swyddog Contractau Trosglwyddo Technoleg ac Eiddo Deallusol
Rebecca Charnock, Swyddog Datblygu Busnes
Mae’r tîm Datblygu Busnes o fewn Ymchwil, Busnes ac Arloesi wedi’i leoli ar Lawr Gwaelod Isaf y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais. Os oes gennych ymholiad penodol, neu os hoffech gael gwybod rhagor am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni.