Monitro Ymchwil

Mae dau bwrpas rhyngberthynol i fonitro ymchwil. Y cyntaf yw sicrhau bod staff ymchwil ac unedau academaidd yn barod ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac a fydd yn galluogi’r Brifysgol i gyflwyno’r cais gorau posibl. Mae’r ail yn ddatblygiadol – cynghori unedau a staff ymchwil unigol er mwyn iddynt gyflawni’r gwaith ymchwil gorau posibl, yn unol â’r hyn a fesurir gan y FfRhY.

Caiff staff ymchwil unigol eu monitro o fewn i Cyfadran neu Adran. Gwneir hynny gan Gyfarwyddwr Ymchwil y Cyfadran/Adran, weithiau ar y cyd â chydweithiwr hŷn arall. Dylai hyn ddigwydd ddwywaith y flwyddyn, unwaith yn y gwanwyn ac unwaith yn yr hydref, ond wrth i ddyddiad cau’r FfRhY agosáu gellir monitro’n fwy rheolaidd yn y dyfodol. Bydd Cyfadrannau/Adrannau yn cwrdd â Phwyllgor Monitro Ymchwil y Brifysgol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Ymchwil, Effaith a Rhagoriaeth, a fydd yn adrodd wrth Dîm Rheoli’r Brifysgol.

Mae monitro effeithiol yn dibynnu ar wybodaeth sy’n gywir ac yn gyfredol. Tuag at ddiwedd y cylch FfRhY, PURE fydd yn cynhyrchu’r wybodaeth yma. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cynnar, mae’n bosibl y bydd cynlluniau ymchwil dal ar y gweill ac, felly, defnyddir y drefn Cynllun Ymchwil Personol. Bydd y drefn hon yn rhoi darlun mwy cywir i ni o gynlluniau staff ac yn ein galluogi i gynnig cyngor mwy defnyddiol ar gynlluniau ar gyfer y FfRhY.

Ceir copïau gwag o’r ffurflen Cynllun Ymchwil Personol ‌ yma (Ffurflen PeRP).