Rheol Sefydlog 21

Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.

Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs Ôl-raddedig a Addysgir o fis Medi 2013 ymlaen Rheol Sefydlog 2 sydd yn berthnasol.

Graddau Athro drwy Arholiad a Thraethawd Hir

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn gymwys i gynlluniau astudio sy'n arwain at ddyfarnu graddau Athro a ddysgir. Dylid ei darllen ar y cyd â'r rheoliadau sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer y cynllun astudio o dan sylw.

Mynediad

1.
Yn unol â'r Rheoliadau Matricwleiddio, mae'r Brifysgol yn darparu rhestr o raddau cychwynnol a gydnabyddir fel rhai sy'n cyfateb i'w graddau ei hun, ynghyd â manylion y cymwysterau hynny nad ydynt yn gymwysterau graddedig ond a fydd serch hynny yn caniatáu mynediad i ymgeisyddiaeth (Rheoliadau: ‘Cymeradwyo Cymwysterau a Phrofiad Perthnasol i Dderbyn Personau i Ymgeisyddiaethau am Raddau Uwch a Diplomâu Prifysgol Cymru, Aberystwyth').

Rhaid i argymhelliad o blaid derbyn ymgeisydd nad yw'n meddu ar gymhwyster mynediad cydnabyddedig gael ei wneud gan yr adran o dan sylw i'r Swyddfa Derbyn Graddedigion, a rhaid cael cadarnhad bod yr argymhelliad wedi ei gymeradwyo cyn i'r cynllun astudio arfaethedig ddechrau.
2.
Gall ymgeiswyr heb radd sy'n 25 oed neu drosodd adeg cofrestru neu cyn cofrestru ac sydd wedi dal swydd gyfrifol, am ddwy flynedd o leiaf, sy'n berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn gael eu cymeradwyo ar y sail honno. (Nid yw'n ofynnol cael achosion arbennig ar ran y cyfryw ymgeiswyr. Yn yr un modd, ni fydd y Brifysgol yn ystyried achosion arbennig a wneir ar ran ymgeiswyr sydd heb gyrraedd 25 oed adeg cofrestru.)

Strwythur y Cynllun

3.
Gall ymgeiswyr ymgymhwyso ar gyfer Gradd Athro drwy Arholiad a Thraethawd Hir ar ôl dilyn cynllun astudio wedi ei ddysgu a gymeradwyir a hynny yn amser llawn neu yn rhan-amser. Bydd i gynllun ddwy ran neilltuol: Rhan Un, sef cymryd arholiadau ysgrifenedig (neu ryw fath arall o asesiad) a Rhan Dau, sef cyflwyno traethawd hir (neu waith cyfatebol a gymeradwyir), er boddhad yr arholwyr a'r Brifysgol.

Trosglwyddo Credydau

4.
Caniateir Trosglwyddo Credydau mewn perthynas â chynlluniau astudio modiwlar hyd at y terfynau cyffredinol sydd wedi eu sefydlu yn y Rheoliadau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am broses trosglwyddo credydau o dan y system fodiwlar yng Nghynllun CAT y Brifysgol, y mae copïau ohono ar gael oddi wrth y Gofrestrfa drwy wneud cais amdanynt.

Asesu

5.
Mae Rhan Un yn cynnwys asesiadau uwch a osodir ar yr elfen honno o'r cynllun astudio sy'n cael ei ddysgu. Gall asesiadau gymryd ffurf cyfres o bapurau arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd neu math arall o asesiad, megis prosiectau gosod neu waith cwrs penodedig, neu gyfuniad o unrhyw rai o'r rhain. Ar gyfer cynlluniau graddau Athro Modiwlar, bydd Rhan Un yn gyfres o fodiwlau, y gellir eu harholi drwy ddefnyddio amryfal fathau o asesu a hynny yn unol ag amserlen arholi a bennir gan y Bwrdd Arholi perthnasol. Bydd Rhan Dau yn cymryd ffurf traethawd hir (neu waith cyfatebol a gymeradwyir).
6.
Caiff ymgeiswyr eu hasesu yn y Brifysgol ac eithrio, o dan amgylchiadau eithriadol, y caiff ymgeiswyr, gyda chymeradwyaeth yr Is-Ganghellor, sefyll arholiad ysgrifenedig mewn Sefydliad arall neu, o dan amodau a gymeradwyir, mewn man heblaw Sefydliad arall. Gellir rhoi cymeradwyaeth ar yr amod y gall Arolygydd yr Arholiadau o dan sylw wneud trefniadau boddhaol ar gyfer yr arholiad ac y caiff unrhyw dreuliau eu talu gan yr ymgeisydd. Bydd Arolygydd yr Arholiadau yn cyflwyno rhestr o'r cyfryw achosion yn ei (h)adroddiad i'r Brifysgol ar ddiwedd y cyfnod arholi. Ni chaiff ymgeiswyr, mewn unrhyw achos, gymryd arholiad ymarferol mewn unrhyw Sefydliad arall. At ddibenion y paragraff hwn bernir nad yw arholiad ymarferol yn cynnwys ymarfer dysgu neu leoliadau tebyg.
7.
Bydd y Brifysgol yn hysbysu pob ymgeisydd (gan gynnwys y rhai sy'n ailsefyll arholiadau) yn ysgrifenedig ar ddechrau'r sesiwn perthnasol am y dulliau asesu sydd i'w defnyddio ar gyfer Rhan Un y radd, gan gynnwys y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno darnau o waith i'w asesu.
8.
Caiff papurau arholiad eu hargraffu o fewn y Brifysgol.
9.
Rhaid i fyfyrwyr y mae arnynt angen addasiadau ar gyfer eu hasesiadau gyflwyno cais ysgrifenedig, yn y lle cyntaf, i'r swyddog dynodedig yn y Brifysgol, fel arfer y Swyddog Arholiadau Adrannol. Rhaid i'r swyddog ymgynghori â'r Arolygydd Arholiadau erbyn dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Rhaid cael tystiolaeth ddogfennol i ategu'r cais. Mewn ymgynghoriad â'r Arolygydd Arholiadau, caiff y swyddog dynodedig anwybyddu ceisiadau am ddarpariaeth arbennig os nad oes tystiolaeth ddogfennol briodol i'w hategu.
10.
Caiff ymgeiswyr â nam corfforol sy'n golygu eu bod yn methu ag ysgrifennu ateb papurau drwy gyfrwng amanuensis neu drwy ddull priodol arall. Rhaid i unrhyw amanuensis neu offer gael ei ddewis gan yr Arolygydd Arholiadau drwy ymgynghori â'r Pennaeth Adran. Os bwriedir defnyddio prosesydd geiriau neu ficro-ysgrifennwr, dylid rhoi disg newydd i'r ymgeisydd ar ddechrau pob arholiad. Ym mhob achos, rhaid cynnal yr arholiad mewn ystafell ar wahân o dan arolygiaeth gwyliwr wedi ei enwebu.
11.
Os yw'r swyddog dynodedig y cyfeirir ato ym mharagraff 9 yn cytuno y dylai myfyriwr neu fyfyrwraig gael addasiad i'w hasesiadau, rhaid i'r cais (wedi ei ategu â chopïau o'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd) gael ei anfon at yr Arolygydd erbyn dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Yn achos ymgeiswyr sydd â dyslecsia, rhaid derbyn adroddiad wedi ei ddyddio o fewn tair blynedd i ddyddiad mynediad yr ymgeisydd i'r cynllun astudio, gan seicolegydd cymwysedig sydd â phrofiad o weithio gydag oedolion dyslecsig neu gan rywun sydd â chymhwyster o gwrs hyfforddiant proffesiynol yn ymwneud ag asesu oedolion sydd â dyslecsia.
12.
Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n dilyn cynllun astudio yn y Brifysgol ddewis cyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn y Gymraeg neu'r Saesneg - ni waeth ai'r Gymraeg ynteu'r Saesneg yw prif iaith asesu'r cynllun o dan sylw. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hasesu mewn iaith (h.y. naill ai'r Gymraeg neu'r Saesneg) heblaw prif iaith yr hyfforddi/asesu ar gyfer y cynllun o dan sylw hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol.

Bydd swyddog dynodedig y Brifysgol yn cysylltu â'r Arolygydd Arholiadau ynghylch:
  • darparu papurau cwestiwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg;
  • y trefniadau angenrheidiol ar gyfer cyfieithu a/neu farcio sgriptiau mewn pryd i ganlyniadau'r ymgeiswyr gael eu cynnwys ar y ffurflen Hysbysu Canlyniadau swyddogol;
  • Cyflogi person neu bersonau addas i weithredu fel arholwyr ymgynghorol neu (am ffi a gymeradwyir) fel cyfieithwyr.

Marciau Llwyddo/Rhagoriaeth

13.
Wrth roi marciau i ymgeiswyr sydd wedi gorffen Rhan Un cynllun modiwlar, gofynnir i'r arholwyr gofio mai 50% yw'r marc llwyddo modiwlar. Mae'r marc pasio cyffredinol ar gyfer Rhan Un hefyd wedi ei bennu yn 50%; bydd yr arholwyr yn gwybod y bydd marc o 50% ar Lefel M (Lefel 7 CQFW) yn dynodi safon o waith sydd o reidrwydd yn uwch na'r hyn a awgrymir gan farc tebyg a enillir ar Lefel is.
14.
Wrth gyflwyno'r fformiwla sy'n rheoleiddio cymhwyster i gael gradd gyda Rhagoriaeth, yr oedd y Brifysgol yn awyddus i ganiatáu i ymgeiswyr a fu'n fwy llwyddiannus yn Rhan Dau nag yn y gydran a arholir - Rhan Un - fod yn gymwys i gael Rhagoriaeth drwyddi draw ar yr amod bod y marc agregedig a enillir yn 70% neu'n fwy. Mae'n dilyn felly na all ymgeiswyr sy'n ennill marc o 70% neu fwy yn Rhan Un, ond 69% neu lai yn Rhan Dau gael eu hystyried yn gymwys i gael Rhagoriaeth drwyddi draw.  Fodd bynnag, byddant yn gymwys i dderbyn Teilyngdod os yw eu cyfartaledd drwyddi draw yn 60% neu fwy.

Gall y canlynol fod o gymorth wrth ystyried a yw ymgeisydd yn gymwys ar gyfer dyfarniad gradd Athro gyda Rhagoriaeth:
Marc Rhan UnMae'r ymgeisydd yn gymwys i gael Rhagoriaeth:
65% os yw marc Rhan Dau yn 75% neu fwy;
66% os yw marc Rhan Dau yn 74% neu fwy;
67% os yw marc Rhan Dau yn 73% neu fwy;
68% os yw marc Rhan Dau yn 72% neu fwy;
69% os yw marc Rhan Dau yn 71% neu fwy;
70% os yw marc Rhan Dau yn 70% neu fwy;

Nodiadau:

i
ni chaniateir i ymgeiswyr sydd wedi methu elfen y traethawd hir gyda'u cyflwyniad cyntaf fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Rhagoriaeth wedyn;
15.
Rhaid i gymhwyster neu ddiffyg cymhwyster ymgeisydd am ddyfarniad Rhagoriaeth gael ei bennu'n glir ar y ffurflen canlyniad arholiad ar gyfer Rhan Un y cynllun ac ar y ffurflen canlyniad/adroddiad ar gyfer Rhan Dau. Os dywedwyd 'PE' am yr ymgeisydd mewn perthynas â Rhan Un (gweler paragraff 19 isod) gall fod angen cyfrifo cymhwyster yr ymgeisydd i gael Rhagoriaeth drwyddi draw cyn i'r ffurflen canlyniad arholiad gael ei dychwelyd i'r Gofrestrfa. (Os eithriwyd ymgeisydd rhag rhan o'r cynllun o dan drefniadau trosglwyddo credydau, caiff y Bwrdd Arholi gael asesiad o safon y gwaith a gwblhawyd gan yr ymgeisydd cyn trosglwyddo, er mwyn cyrraedd marc canran neu radd gyfatebol gyffredinol ar gyfer y rhan berthnasol o'r cynllun.