2. Dod â seryddiaeth cysawd yr haul i flaen y gad ym mywyd diwylliannol Cymru
Dr Huw Morgan

Poster cyngerdd Lloergan

Mae seryddiaeth wedi dod yn thema ganolog i sawl agwedd ar ddiwylliant Cymru trwy weithgareddau prosiect RAS200: ‘Seryddiaeth a Geoffiseg trwy Ddiwylliant Traddodiadol Cymru’.

Cyflwynodd seryddiaeth i ysgolion a digwyddiadau diwylliannol trwy weithdai, cystadlaethau a digwyddiadau creadigol niferus, gan gyrraedd miloedd o gyfranogwyr gweithgar a chynulleidfaoedd o ddegau o filoedd. Mae hyn yn parhau y tu hwnt i oes y prosiect ac wedi gadael gwaddol o gyhoeddiadau artistig ar thema wyddonol gan gynnwys cerddoriaeth, gwaith celf, a llyfrau cyhoeddedig.

Fe wnaethom gychwyn ar brosiect uchelgeisiol i ddefnyddio digwyddiadau diwylliannol Cymreig fel cyfrwng i gyflwyno themâu gwyddonol i gynulleidfa ehangach, trwy arwain y prosiect 'Seryddiaeth a Geoffiseg trwy ddiwylliant traddodiadol Cymru', a ariennir gan gynllun 'RAS 200 Sky & Earth'.

Lloerganiadau: Fflur Dafydd yn sgwrsio gyda Huw Morgan am ei chyfrol newydd

Mwy o wybodaeth

Dr Huw Morgan

Adran Academaidd

Adran Ffiseg

Nesaf
Blaenorol