Pwy all eich helpu efo Mynediad Agored?

O fewn PA

Gyda chefnogaeth gan y Gyrchu Agored PA a Grŵp Llywio Rheoli Data Ymchwil, mae'r Gweithgor Mynediad Agored PA yn anelu at gynorthwyo staff gan wneud eu gwaith ar gael mewn modd agored yn unol â gorchmynion cyllidwr ymchwil ac amodau cyhoeddwr. Mae cyllidwyr allanol o'r fath yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • UKRI
  • Llywodraeth
  • Y Comisiwn Ewropeaidd
  • Y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd
  • Elusennau
  • Masnachol

Bydd arweiniad yn cael ei roi i ymchwilwyr â ffynonellau eraill o gyllid. Yn yr achosion hyn, gofynnwch i ni os oes angen arian ar gyfer cyhoeddi Mynediad Agored aur.

Y Gallwch gysylltu â Gweithgor Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth drwy anfon e-bost i: mynediadagored@aber.ac.uk.

Teulu Cymorth Cyfathrebu Ysgolheigaidd

 

Tu allan i PA

Cronfa ddata chwiliadwy sy'n rhoi canllawiau ar ofynion Mynediad Agored gyllidwr ymchwil ar gael yn: http://www.sherpa.ac.uk/juliet

Ceir canllawiau ar ofynion Mynediad Agored cyfnodolyn / cyhoeddwr mewn cronfa ddata chwiliadwy: http://www.sherpa.ac.uk/romeo

Mae rhestr o archifdai ddisgyblaethol ar gael yn: http://oad.simmons.edu/oadwiki/Disciplinary_repositories

 

Canllawiau ar Drwyddedau Mynediad Agored

Wrth gyhoeddi gwaith Mynediad Agored, mae awduron yn cadw hawlfraint eu gwaith.  Mae'r ystod fwyaf poblogaidd o drwyddedau yw'r rhai a chynigir gan Creative Commons.

Weithiau, gall gwaith yn y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol codi ystyrion hawlfraint gymhleth.  Mae canllawiau am ddefnydd trwyddedau Creative Commons gyda'r fath gwaith ar gael ar wefan OAPEN: http://oapen-uk.jiscebooks.org/ccguide/ 

Mae canllawiau cyffredinol am gyhoeddi Mynediad Agored yn y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ar gael ar wrth yr un gwefan: http://oapen-uk.jiscebooks.org/oaguide/ 

 

Hyfforddiant ac Adnoddau

Ceir mwy o ganllawiau a gwybodaeth ar gyrchu agored yn y cyflwyniadau dilynol (Saesneg yr unig):