Mae'r Dosbarthidau Dwr wedi'i ohirio ar hyn o bryd. Byddwn mewn cysylltiad pryd y bydden yn ail-ddechrau.
Ffitrwydd Dwr - Dydd Mercher 6.30yh-7.15yh
Ymarfer corf gwych yn y pwll i gerddoriaeth. Cryfhau, ffitrwydd a llawer o hwyl. Agored i bob lefel – gan gynnwys i rai sydd ddim yn nofio.
Campfa Dŵr – Dydd Gwener 10.30yb-11.15yb
Ymarfer corff gwych mewn dŵr dwfn, gyda gwregysau arnofio sy’n caniatáu i chi weithio mewn modd effeithiol ond cwbl ddiogel. Mae’r dosbarth hwn yn dda iawn i wella symudedd eich cymalau, yn ogystal ag ar gyfer eich ffitrwydd yn gyffredinol.
Sesiwn Nofio Triathlon - Dydd Mawrth 7yh, Dydd Iau 7.15yb
Bydd y sesiynau hyn yn gweithio ar Gyflyru Sylfaenol / Dycnwch Cryfder, ac maent yn rhan o gynllun hyfforddi graddol. Mae’r sesiynau’n addas i bob gallu (o ddechreuwyr i’r rhai mwy profiadol) er mwyn dysgu sut i wella techneg benodol neu i gael sesiwn ymarfer dda yn y dŵr.
Caiff y sesiynau eu darparu gan Mr Pete Jenkins sy’n Hyfforddwr BTF Lefel 3, a Hyfforddwr Triathlon Cymreig y Flwyddyn 2012.
Gwersi Nofio
P’un a ydych eisiau dysgu nofio neu wella eich techneg, mae gennym wersi nofio sy’n addas i chi. Gallwn hyd yn oed drefnu sesiynau un-ag-un gyda’n Hyfforddwyr ASA.