Mentoreion

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Cynllun

Os gofynnwch am Fentor 'Ffordd Hyn' bydd myfyriwr israddedigion (ail, trydydd, blwyddyn olaf) neu fyfyriwr graddedig sydd wedi profi llawer o'r hyn sy'n eich wynebu chi yn cael ei neilltuo ar eich cyfer. Bydd y Mentor yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i drafod y Cynllun ac unrhyw drafferthion, gyda golwg ar drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb pe byddech chi'n hoffi hynny.

Beth yw Mentor?

  • Ffynhonnell fwy profiadol o wybodaeth
  • Cyswllt â gwasanaethau eraill PA
  • Arwyddbost i gyfeirio at adnoddau allanol
  • Rhywun i siarad yn gyfrinachol ag ef neu â hi

Mae gan y Mentoriaid agwedd hyblyg ond mae'n bwysig nodi nad ydynt:

  • Yn ymgynghorwyr hyfforddedig
  • Yn diwtoriaid personol
  • Yn weithwyr meddygol proffesiynol
  • Yn ffynhonnell cymorth 24/7

'Bu'r cymorth ges i gan fy mentor yn amhrisiadwy. Mae'r cyngor ynglŷn â gyda rhannau anoddaf y cwrs wedi fy helpu i ddeall y dulliau mewn ffordd symlach' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun

I gael rhagor o wybodaeth am y berthynas rhwng y Mentor a'r Mentorai, ewch i'r Cyfarwyddiadau 'Ffordd Hyn'.

A all Mentora'r 'Ffordd Hyn' fod o gymorth i fi?

Edrychwch ar Siart Llif Mentora 'Ffordd Hyn' i weld a allai'r cynllun eich helpu chi

Gwneud cais am Fentor

I wneud cais am Fentor llenwch y ffurflen gais neu cysylltwch â 'Ffordd Hyn'.

Mentoreion Cyfredol

I'n Mentoreion cyfredol, gobeithio bod popeth yn gweithio’n hwylus ichi ac rydyn ni wastad yn ddiolchgar am unrhyw adborth fel y gallwn weithio'n gyson i wella'r cynllun.

Hefyd, mae croeso ichi ofyn unrhyw beth i ni yn uniongyrchol, beth bynnag yw'r mater.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin