Staff

Pwy allai elwa o'r Cynllun?

Gallai unrhyw fyfyriwr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol elwa o gael Mentor i siarad ag ef neu â hi, rhywun fydd yn deall pethau ar yr un lefel. Mae'r materion cyffredin yn cynnwys

  • Hiraeth
  • Llety
  • Arian a threfnu cyllideb
  • Rheoli amser
  • Troi at wasanaethau a chefnogaeth y Brifysgol
  • Adolygu
  • Arholiadau

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Mentora ar y cynllun ewch i'n prif dudalen

Cyfeirio Mentoreion posibl ymlaen

Gan eich bod yn aelod o staff y Brifysgol mae'n bosib y byddwch yn dod i gyswllt â myfyrwyr a allai, yn eich barn chi, elwa o gael cymorth a chefnogaeth myfyriwr sy'n un o Fentoriaid y cynllun. A fyddech cystal â chyfeirio'r myfyrwyr hyn at dudalen y Mentoreion a'u cynghori i ddefnyddio'r Siart Llif i weld a allai'r cynllun fod o gymorth iddyn nhw. Efallai y bydd y myfyrwyr hyn wedyn yn cysylltu'n uniongyrchol i wneud cais am Fentor trwy'r ffurflen gais ar-lein. Trefnir Mentor ar eu cyfer cyn gynted ag y bo modd.

Pwysig: os oes gennych unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltwch â'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr student-support@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761 / 622087.

'Wrth siarad â'r mentor a sylweddoli ei fod wedi cael meddyliau tebyg i'r rhai a ges i, neu ei fod wedi gwneud rhai camgymeriadau tebyg, fe ges i'r hyder a'r cyfarwyddyd angenrheidiol i ddatblygu a gwella. Y ffaith syml mod i'n gallu siarad â rhywun oedd â'r profiad o wneud yr union beth ro’n i'n ei wneud, gyda'r un darlithwyr ac aseiniadau, roedd hyn yn gymaint o gymorth oherwydd ro’n i'n fwy tawel fy meddwl am yr hyn roedd angen i fi ei wneud i gael y graddau.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora

Mentoriaid Posibl

Gwneir y Mentora gan ein myfyrwyr hynaf (trydedd flwyddyn/blwyddyn olaf, ac uwchraddedigion) sydd â theimladau cryf am Fentora ac sy'n ymrwymedig i gynorthwyo'u cymheiriaid. Os gwyddoch am fyfyrwyr a fyddai'n gwneud Mentoriaid da, cofiwch eu hannog i edrych ar ein tudalen Mentoriaid i gael mwy o wybodaeth neu gallant wneud cais yn uniongyrchol trwy 'Gwaith Aber' adeg y Pasg bob blwyddyn.

Bellach mae Gwobr 'Mentor y Flwyddyn' yn rhan o wobrau blynyddol staff a myfyrwyr UMAber, er mwyn cydnabod y gwaith Mentora pwysig a wneir gan ein myfyrwyr sy'n Fentoriaid yn y Brifysgol. Soniwch am y wobr hon wrth unrhyw fyfyrwyr y gwyddoch sy'n cael eu mentora er mwyn hyrwyddo gwerth mentora ymhellach ymhlith myfyrwyr PA.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin