Cyfleoedd Arbennig

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau allweddol hyn yn nhref Aberystwyth i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith blynyddol sydd wedi'u teilwra:


Profiad arsylwi yn yr ystafell ddosbarth yn Ysgol Penglais penglais school logo

Mae lleoliad 3 diwrnod yn yr Ysgol yn cael ei gynnig i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, fel arfer ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ionawr a Mehefin. Cydlynir y broses recriwtio gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a gofynnir i fyfyrwyr beidio â gofyn i’r Ysgol yn uniongyrchol.

Mae'r rhain yn gyfleoedd delfrydol i unrhyw fyfyriwr sydd am gael profiad uniongyrchol o ddysgu a bywyd ysgol, i'w helpu i benderfynu a yw dysgu yn yrfa iddynt, neu i gryfhau cais i hyfforddi fel athro os penderfynwyd eisoes ar y llwybr gyrfaol hwn.

Rhoddir gwybod i bob myfyriwr drwy e-bost pan fydd y ceisiadau’n agored. Gofynnir i fyfyrwyr sy'n ystyried yr opsiwn hwn ddarllen Arsylwi Ystafell ddosbarth yn Ysgol Penglais Aberystwyth - Canllaw i Ymgeiswy.

Profiad llys a phrofiad cymorth i droseddwyr, Canolfan Cyfiawnder Aberystwyth

Fel arfer, mae'r cyfle hwn i ymuno â staff y llys a gweithwyr proffesiynol eraill yn ystod sesiynau llys, ac i gefnogi diffynyddion 1:1 pan fo hynny'n briodol, ar ôl cael eu hatgyfeirio gan ynad, yn cael ei gynnig bob blwyddyn i rhwng 6 a 10 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n astudio yn yr adrannau seicoleg, y gyfraith a'r maes addysg.

Fel arfer, mae'r broses recriwtio yn digwydd ym mis Hydref/Tachwedd ac mae myfyrwyr llwyddiannus yn mynychu'r llys bob dydd Mercher yn ystod y tymor, mewn parau, ar sail rota.

Yn anffodus nid yw'r cynllun hwn yn rhedeg yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23 ond bydd myfyrwyr sy'n gymwys i gymryd rhan yn cael gwybod drwy e-bost pan fydd ceisiadau i'r garfan nesaf yn agor. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, darllenwch y wybodaeth ategol os gwelwch yn dda.

 

Ddiddordeb? Os oes gennych ymholiadau am y naill neu'r llall o'r cynlluniau hyn e-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk