eFentoriaid

Mentoriaid (Alumni Aber a Phobl Broffesiynol)

  • Rhannwch eich blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth
  • Cyflwynwch i fyfyrwyr a graddedigion sy’n dechrau ar eu gyrfa wybodaeth am yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd i gyrraedd eich sefyllfa bresennol
  • Ysbrydolwch fyfyrwyr dihyder i ddilyn amcanion eu gyrfa
  • Cadwch mewn cysylltiad a chreu cymuned o raddedigion Aber sy’n cefnogi ac yn annog ei gilydd

 Fel mentor, byddwch yn darparu cefnogaeth, cyngor wrth chwilio am swydd ac arweiniad o ran gyrfa i fyfyriwr presennol neu unigolyn sydd newydd raddio a fydd yn elwa o’ch profiad a’ch sgiliau unigryw. Bydd rhannu eich gwybodaeth yn cynnig profiad gwerthfawr i fentoreion, yn eich cadw mewn cysylltiad â’r syniadau a’r amgylchedd eithriadol y mae Aber yn eu cynrychioli ac yn ein helpu i chwarae rôl allweddol wrth adeiladu profiad llewyrchus, oesol.

 

Manteision i’r mentor

  • Gwybod eich bod wedi helpu rhywun i ddatblygu ei hyder a’i hunan-werth
  • Boddhad eich bod wedi rhoi i fyfyriwr neu rywun sydd newydd raddio fwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i gyrraedd eu hamcanion o ran gyrfa
  • Cyfle i ddatblygu sgìl newydd ar gyfer eich CV
  • Cyfle i ystyried eich profiadau eich hun o safbwynt newydd a dysgu gan y rheiny sydd ar fin dechrau swydd
  • Dealltwriaeth o heriau a disgwyliadau myfyrwyr sy’n dod i’r gweithle
  • Mwy o synnwyr o werth a chyfraniad i ‘gronfa dalentau’ graddedigion
  • Cyfle i ehangu eich rhwydweithiau a’ch cysylltiadau y tu allan i’r gweithle presennol

I gael rhagor o wybodaeth, weler ein taflenni isod neu cysylltwch gyrfaoedd@aber.ac.uk

Canllawiau Mentoriaid

Cwestiynau Cyffredin Mentoriaid

Cofrestrwch yma