Blwyddyn Olaf

Mae hon yn flwyddyn dyngedfenol wrth lunio cynlluniau i’r dyfodol ac wrth ddelio â’r trawsnewidiad i fod yn rhan o’r gweithlu neu i ymgymeryd ag astudiaethau uwchraddedig.  Dilynwch y camau isod i ysgafnhau’r baich.

Trafodwch eich cynlluniau datblygu gyrfa

Os oes gennych syniad clir am eich cam nesaf, neu os oes gennych rhai syniadau er yn aneglur ac hoffech eu trafod ymhellach, neu rydych yn hollol ansicr o’r hyn allech ei wneud ar ôl graddio yna dewch i’n gweld yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd am gymorth a chyfarwyddyd perthnasol.  Mynwch olwg ar Cychwyn eich Busnes/Menter Gymdeithasol eich Hun os yw hyn yn apelio atoch fel opsiwn.

Ymgeisiwch am swyddi lefel gradd a chyrsiau uwchraddedig

Byddwch ym wyliadwrus o ddyddiadau cau swyddi i raddedigion, gall rhai ohonynt fod yn fuan yn ystod y flwyddyn olaf hon, felly ymchwiliwch i gwmniau sydd o ddiddordeb i chi yn reit handi.  Mae amrywiaeth o gyfleoedd yn ein cronfa ddata gyrfaoeddABER. Neu ystyriwch yr awgrymiadau ar ein tudalennau Gwybodaeth Pwnc Penodol os hoffech barhau gyda’ch maes academiadd yn y byd gwaith neu wrth ddilyn astudiaethau pellach.

Gofynwch am gymorth gyda’r broses ymgeisio

Gall ymgeisio am swydd neu gwrs uwchraddedig fod yn dipyn o gamp ond mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd, gan gynnwys cwblhau ffurflenni a mynychu cyfweliadau a chanolfannau asesu. Yn ogystal, cynigiwn cyfres o weithdai a sgyrsiau gan gyflogwyr a fydd o fudd wrth ichi wneud ceisiadau a pharatoi am gyfweliadau. Gwelir y gweithdai sydd ar gynnig ar gyrfaoeddABER.