Iselder a Hwyliau Isel

Fel bodau dynol mae’n amhosib i ni fod yn hapus trwy'r amser. Rydym ni'n teimlo emosiynau eraill ac mae hynny’n normal. Daw bywyd â sefyllfaoedd anodd a gall hyn effeithio ar ein tymer ac ar ein teimladau tuag atom ni ein hunain a'n gallu i ymgymryd â'r pethau y byddem yn hoffi gallu eu gwneud. Mae llawer o bethau syml y gellir eu gwneud er mwyn ymdopi â'r adegau hyn. Cynigir amrywiaeth o opsiynau ar gyfer help a chyngor yn y dolenni cyswllt isod. Rydym ni hefyd yn eich cynghori i fynd at eich meddyg teulu os ydych chi wedi bod yn teimlo hwyliau isel am gyfnod maith ac os yw'n effeithio ar eich gallu i ymgymryd â'ch arferion dyddiol.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw ynglŷn ag iselder, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn helpu i reoli hwyliau isel ac iselder - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/en-gb

MIND - Therapi Ymddygiad Gwybyddol am ddim ar-lein - Beat the Blues

Mae Mind yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol am ddim ar-lein yn ogystal â gwybodaeth am y therapi a'r amrywiol ffyrdd y gellir manteisio arno https://www.mind.org.uk/information-support/drugs-and-treatments/cognitive-behavioural-therapy-cbt/cbt-sessions/

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padeskyhttps://www.mindovermood.com/

Sefydliad Iechyd y Byd - cyfres o fideos byr ‘I had a black dog, his name was depression

Cyfres o fideos byr sy'n ddefnyddiol er mwyn deall a rheoli iselderhttps://www.youtube.com/watch?v=XiCrniLQGYc

Cyflyrau'r GIG Ar-lein - 6 awgrym:

Gwybodaeth ar-lein - 6 awgrym ar sut i deimlo mwy o hapusrwydd, rheolaeth a gallu ymdopi https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/feel-better-and-happy/

GET SELF HELP ar-lein

Amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli gwahanol gyflyrau https://www.getselfhelp.co.uk/

Sgwrs am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein am hwyliau isel ac iselder a sut i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Mae ein hymarferwyr cymwysedig wedi datblygu cyflwyniad a fydd yn eich helpu i ddysgu am iselder a hwyliau isel. Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu gydag effaith hwyliau isel ac iselder ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.