Anhwylderau Bwyta

Gallwn ddatblygu ymddygiad negyddol yn ein perthynas â bwyd fel ffordd o ymdopi â sefyllfaoedd, emosiynau a meddyliau anodd. Mae gofyn am gymorth gydag anhwylder bwyta yn hynod o bwysig ac rydym yn eich cynghori i siarad â'ch meddyg teulu ynglŷn â'ch perthynas â bwyd. Dylech hefyd ddefnyddio'r wybodaeth ddefnyddiol a ddarperir ar y dudalen hon.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Cyflyrau'r GIG Ar-lein

Gwybodaeth am fathau o anhwylderau bwyta, cefnogaeth, triniaethau ac adnoddau hunangymorth https://www.nhs.uk/conditions/Eating-disorders/

BEAT - llinell gymorth ac ar-lein

Gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn ag anhwylderau bwyta https://www.beateatingdisorders.org.uk/

Llinell gymorth: https://www.beateatingdisorders.org.uk/get-information-and-support/get-help-for-myself/i-need-support-now/helplines/

 

MIND ar-lein

Gwybodaeth amrywiol ynglŷn â'r mathau o anhwylderau bwyta, a'r ffordd orau o ymdopi â bywyd gydag anhwylder bwyta a chael triniaeth https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/eating-problems/types-of-eating-disorders/

Student Space

Grŵp cefnogi ar-lein ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau ac anhwylderau bwyta.

Cefnogaeth i fyfyrwyr gydag anawsterau bwyta | Student Space

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn ag anhwylderau bwyta a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaethau http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i gael y cymorth cywir a'ch helpu i reoli effaith hyn ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru a'n gwasanaeth ar-lein.