Cyfeillgarwch
Mae'n bwysig bod y berthynas sydd gennym ni â'n ffrindiau yn berthynas fuddiol, gan mai at ein ffrindiau y byddwn yn troi er mwyn trafod ein problemau. Gall ffrindiau angharedig effeithio'n fawr ar les ac iechyd meddwl, felly mae'n bwysig iawn sicrhau bod gennych chi berthynas iach â'ch ffrindiau. Bydd y dolenni cyswllt isod yn eich cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut i sefydlu a chynnal cyfeillgarwch iach
Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall
Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/
Student Minds ar-lein
Dysgu am gyfeillgarwch - o safbwynt myfyriwr https://www.studentminds.org.uk/supportforafriend.html
Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid
Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/
Cod Myfyrwyr ABER ar Urddas a Pharch
Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni fel unigolion i sicrhau bod urddas a pharch tuag at bawb yn cael ei gynnal - Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi neu eraill yn cael eich trin gydag urddas a pharch, efallai yr hoffech chi roi gwybod inni am y mater ar-lein https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/student-dignity-respect/
Ymwybyddiaeth Gwylwyr Cymorth i Fenywod Cymru ar-lein
Mae rheoli problemau sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn gyfrifoldeb ar bawb ohonom ni, a gall Cymorth i Fenywod gynnig gwybodaeth ynglŷn â cham-drin domestig sy'n digwydd i ddynion a merched a'r ffordd orau o ymdopi https://www.welshwomensaid.org.uk/events/dont-be-a-bystander-awareness-event/
Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr
Mae ein hymarferwyr cymwysedig wedi datblygu cyflwyniad a fydd yn eich helpu i ddysgu am gyfeillgarwch yn y brifysgol. Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i wynebu unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â chyfeillgarwch a'u heffaith ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.