Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM)

 

 

Wedi'i drwyddedu ar gyfer Cymru ac yn seiliedig ar ganllawiau CCIM rhyngwladol, caiff y cwrs hwn ei gyflwyno o bell gan ymarferydd Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr. Bydd cwrs CCIM (Cymru) yn dysgu staff sut i gynorthwyo unigolion sy'n datblygu problem iechyd meddwl, sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n gwaethygu neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.

Datblygu problemau iechyd meddwl:

  • Iselder
  • Problemau gorbryder
  • Anhwylderau bwyta
  • Seicosis
  • Problemau defnyddio sylweddau

Argyfwng iechyd meddwl

  • Meddyliau ac ymddygiadau hunanddinistriol
  • Hunan-anafu nad yw'n hunanddinistriol
  • Pyliau o banig
  • Digwyddiadau trawmatig
  • Cyflyrau seicotig difrifol
  • Effeithiau difrifol oherwydd alcohol neu gyffur arall
  • Ymddygiadau ymosodol

Anogir aelodau’r staff i archebu lle ar y cwrs cyn gynted ag y bo modd, ac o leiaf 28 diwrnod cyn  dyddiad cychwyn y cwrs. Mae angen y 28 diwrnod hyn gan y bydd angen ichi fod wedi eich cofrestru â Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Bydd y tîm lles yn gwneud hyn er mwyn ichi allu cael y deunyddiau hyfforddi.

Ar ôl ichi gofrestru, anfonir modiwlau hyfforddi atoch. Bydd angen ichi gwblhau’r rhain dros gyfnod o bythefnos. Bydd angen oddeutu 3 awr arnoch yn ystod y pythefnos i gwblhau’r modiwlau hyn. Cwrs deuddydd fydd hwn, a bydd yn para 3 awr y dydd. Yn un o’r modiwlau, bydd angen ichi gwblhau tasg rhwng y diwrnod hyfforddi cyntaf a’r ail ddiwrnod. Dylai hon gymryd oddeutu 2 awr ichi ei chwblhau. Pan fyddwch chi wedi cymhwyso fel swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl, bydd angen ichi gymryd rhan mewn sesiynau rheolaidd er mwyn ichi gael arweiniad a chefnogaeth. Cynhelir y sesiynau hyn at ddibenion llywodraethiant hefyd.

Amserlen enghreifftiol

  • 28 diwrnod cyn yr hyfforddiant: Rydych wedi eich cofrestru. Bydd y staff lles yn eich cofrestru gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Byddant hefyd yn cofrestru’r cyllid â’r Brifysgol.
  • 14 diwrnod cyn yr hyfforddiant: Bydd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn anfon dolen i’r modiwlau atoch. Bydd angen ichi gwblhau’r modiwlau hyn yn ystod y pythefnos cyn y diwrnod hyfforddi. Os na fyddwch yn eu cwblhau, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y diwrnod hyfforddi. Bydd angen hyd at 3 awr arnoch i gwblhau’r modiwlau hyn.
  • Diwrnod 1 yr hyfforddiant: Anfonir gwahoddiad Microsoft Teams atoch i ymuno â sesiwn 3 awr ei hyd gyda’n hymarferwyr.
  • Ar ôl y sesiwn, anfonir modiwlau atoch i’w cwblhau cyn y sesiwn nesaf. Dylai gymryd hyd at 2 awr ichi gwblhau’r modiwlau hyn.
  • Diwrnod 2 yr hyfforddiant: Anfonir gwahoddiad Microsoft Teams atoch i ymuno ag ail sesiwn 3 awr ei hyd. Bydd angen ichi basio’r ddau fodiwl, a bydd angen ichi fod wedi bod yn bresennol yn y ddau ddiwrnod hyfforddi er mwyn ichi fod yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ardystiedig.
  • Ar ôl Diwrnod 2, ac ar ôl ichi basio’r modiwlau, byddwch yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ardystiedig.