Paratoi'n Gynnar ar Gyfer Aseiniadau Prifysgol

Yr arholiadau ac aseiniadau yw uchafbwynt yr holl waith caled a wnewch, ond gall straen a phryder wneud ichi deimlo nad yw’n bosib ichi lwyddo. 

Bydd y cyflwyniad yn trafod:

  • Sut i leihau straen academaidd
  • Awgrymiadau am astudio ac adolygu
  • Strategaethau i gadw straen dan reolaeth
  • Cynorthwyo’ch ffrindiau
  • Awgrymiadau am ymdopi yn ystod yr arholiad ei hun

Ni fydd y gweithdy ar ffurf darlith, a bydd yn cynnwys ymarferiadau ymlacio ymarferol i’ch cynorthwyo i beidio cynhyrfu ac i gadw’n hyderus ac yn barod i wneud eich gorau.

Dyddiadau

Dydd Mercher 13:30 – 15:00

  • 15 Mawrth 2023

Archebwch eich lle