Taliad Llawn a Rhandaliadau
Gall Ffioedd dysgu gael ei talu yn llawn neu mewn 3 rhandaliad drwy ein safle taliadau ar lein.
Talu ar lein yw’r unig ddull i dalu Ffioedd Dysgu mewn rhandaliadau. Rhaid talu yn llawn os ydych am ddefnyddio unrhyw ddull arall o dalu.
Talu Arlein
Trosglwyddiad Banc
Taliad drwy drosglwyddiad banc I:
Brifysgol Aberystwyth Cyfrif Cyffredin, Lloyds, Caerdydd
Rhif y Cyfrif: 00307826
Côd Didoli: 30-91-63
Sicrhewch eich bod yn dyfynnu enw llawn y myfyriwr a rhif cyfeirnod/neu rhif myfyriwr gyda pos trosglwyddiad.
Trosglwyddo Banc Rhyngwladol
Gellir gwneud trosglwyddiadau banc rhyngwladol trwy ein partner Pay to Study, sy'n eich galluogi i wneud taliadau rhyngwladol i Brifysgol Aberystwyth am ddim a derbyn cyfraddau cyfnewid arian tramor cystadleuol. Os oes gan Pay to Study gyfrif banc lleol, ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd talu rhyngwladol a byddwch chi'n gallu talu yn eich arian lleol.
Mwy o wybodaeth - Pay to Study Student Guide
Gwneud taliad gyda Pay to Study - https://aber.paytostudy.com/
Ydych chi yn fyfyriwr rhyngwladol neu UE ac eisiau talu eich ffioedd dysgu neu ffioedd llety yn eich arian lleol? Rydym wedi creu partneriaeth gyda Western Union Business Solutions fel y medrwch ddanfon taliadau rhyngwladol yn ddiogel I dalu eich ffioedd dysgu yn eich arian lleol. Mae’n ddiogel, syml. I gael dyfynbris yn eich arian lleol, a fydd yn gymwys am 72 awr, ewch i GlobalPay, y ffordd orau i wneud taliad.
Gwnewch daliad drwy https://student.globalpay.wu.com/geo-buyer/Aberystwyth
Trosglwyddo Banc Rhyngwladol
IBAN |
GB71LOYD30916300307826 |
BIC |
LOYDGB21143 |
Cyfeiriad banc |
Lloyds TSB Bank Plc
1-7 Queen Street
Cardiff
CF10 2AF
|
Dyfynnwch enw a chyfeirnod y myfyriwr gyda phob trosglwyddiad banc os gwelwch yn dda.
Arian Parod / Siec
Medrwch dalu gyda siec/arian parod yn y Swyddfa Ffioedd I Fyfyrwyr sydd wedi ei leoli ar ail lawr Canolfan Croesawu Myfyrwyr.
Gwnewch sieciau yn daladwy I “Prifysgol Aberystwyth” dyfynnwch cyfeirnod y myfyriwr ar gefn y siec.
Taliad drwy Noddwr (ag eithro rhiant)
Os yw’r myfyriwr wedi sicrhau nawdd am cyfanswm y ffioedd neu rhan o’r ffioedd, mae’n ofynol i’r myfyriwr ddarparu tystiolaeth o’r nawdd cyn cofrestru. Os na darperir tystiolaeth bydd y myfyriwr yn gyfrifol am y ffioedd llawn, a’r un telerau talu a ffioedd dysgu arferol.
Os bydd noddwr yn methu talu’r ffioedd , bydd y myfyriwr yn gyfrifol am dalu’r ffioedd.