Gwaredu Straen Arholiadau Aber

#GwareduStraenArholiadauAber

Gyda hithau’n dymor yr arholiadau, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal ymgyrch #GwareduStraenArholiadauAber, gan gynnig llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’ch helpu i ymlacio.

Mae'n bwysig cadw’n cŵl, ac er ein bod yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i'ch helpu chi drwy gyfnodau anodd, weithiau'r cyfan sydd ei angen arnoch yw ychydig o hwyl.

Felly p'un a ydych chi'n mwynhau gwau, karaoke, ymarfer corff neu jyst awydd dala’r slac yn dynn, edrychwch ar y manylion ar wefan Undeb y Myfyrwyr a lawrlwythwch yr amserlen.

Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio trwy gydol y cyfnodau arholiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 2 a 3 o’r gloch yn y Ganolfan Croeso i Fyfyrwyr. Does dim angen i chi drefnu apwyntiad, dim ond galw heibio.

#GwareduStraenArholiadauAber

Os ydych chi'n mwynhau'r digwyddiadau, rhowch wybod i ni! Anfonwch eich lluniau atom gan ddefnyddio #GwareduStraenArholiadauAber a rhannu eich syniadau i chwalu’r straen. 

Date: Maw, 09 Ion 2018 16:39:00 GMT