Canolfan Access Aberystwyth

Croeso

Mae'r Canolfan Access Aberystwyth bellach ar-lein felly gallwch fynd at ein gwasanaethau lle bynnag yr ydych chi - ar e-bost, siarad dros y ffôn neu alwad fideo, beth bynnag sydd orau gennych. Bydd staff yn gweithio oriau swyddfa arferol ac yn edrych ymlaen at glywed gennych!

Croeso i wefan y Ganolfan Access. Yma, cewch wybodaeth am y gwasanaethau y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a sut y gellwch eu defnyddio. Mae hon yn Ganolfan Allgymorth i Ganolfan Asessu Prifysgol Bangor.


Rydym yn ymdrin yn bennaf â cheisiadau am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA), ac mae’r rhan fwyaf o’r wefan hon yn ymwneud ag egluro’r drefn o ran gwneud cais.

Rydym yn darparu Asesiadau Anghenion Astudio ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i dderbyn y LMA.  Mae hyn yn golygu siarad â chi ynglyn â’ch anabledd a’r rhwystrau a gewch, ac yna argymell y strategaethau a’r cyfarpar ategol a fydd yn eich galluogi i gael addysg ar yr un lefel â’ch cyd-fyfyrwyr.

Trefn Gwneud Cais

Cam Un

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch Corff Cyllido i’w hysbysu am eich bwriad i wneud cais am y LMA. Bydd yn anfon ffurflen atoch, i’w llenwi a’i hanfon yn ôl. Gellwch wneud hyn mewn cysylltiad â’r Cynghorwr Anabledd, neu â’r Uned Dyslecsia fel y bo’n briodol.

Cam Dau

Rhoi eich ‘Tystiolaeth Feddygol’ i’r Ganolfan Access. Gall hon fod yn nodyn gan feddyg, neu’n ddogfennaeth arall sy’n rhoi tystiolaeth o’ch anabledd. Yn achos myfyrwyr Dyslecsig, rhaid i’r ddogfen hon fod yn adroddiad diweddar gan Seicolegydd Addysgol. Rhaid inni anfon hwn i’r Corff Cyllidol ei harchwilio. Yr Corff Cyllido fydd yn penderfynu a oes gennych hawl i gael y LMA. Rhaid i’ch hawl gael ei phrofi cyn y gellir cynnal Asesiad Anghenion.

Cam Tri

Unwaith fod eich Corff Cyllido wedi cadarnhau fod gennych hawl, cewch Asesiad Anghenion Astudio. Yn y fan hon, byddwch, fel rheol, yn dod i’r Ganolfan Access, a byddwn yn trafod eich anghenion yng nghyswllt anabledd. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad yn argymell y gefnogaeth berthnasol etc. sydd ei hangen arnoch.

Cam Pedwar

Bydd gofyn ichi ddarllen yr adroddiad y byddwn yn ei lunio, cyn inni ei anfon i’r Corff Cyllido. Eich cais chi yw hwn, ac mae angen ichi fod yn hapus yn ei gylch cyn inni ei hanfon i’ch Corff Cyllido.

Cam Pump

Mae eich adroddiad yn mynd i’r Corff Cyllido (a chewch chi gopi ohono). Yr Corff Cyllido sy’n penderfynu pa rai o’n hargymhellion y gall dalu amdanynt gyda chyllid y LMA. Dylai ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am ganlyniad yr asesiad.

Cam Chwech

Unwaith y cewch gadarnhad y bydd yr Corff Cyllido yn cyllido’r cymorth etc. sydd wedi’i argymell, dylech roi copi o’r llythyr i’r sawl sy’n rhoi’r cymorth (e.e. Gwasanaethau Myfyrwyr, yr Uned Dyslecsia, neu, yn achos cyfarpar, y ganolfan Access). Rhaid i’r cyflenwydd gael cadarnhad y bydd yr Corff Cyllido yn talu am y gwasanaethau a’r cyfarpar a ddarperir.

Yn achos cefnogaeth astudio yn yr Uned Dyslecsia, gellwch, fel arfer, gymryd hon cyn i’r Corff Cyllidol gysylltu â chi. Ni ellir cyflenwi eitemau eraill, megis cymerwyr nodiadau a chyfarpar, heb gadarnhad gan yr Corff Cyllido.

Gwybodaeth Ychwanegol

Unwaith y byddwch wedi cael asesiad o’ch anghenion, byddwn yn anelu at gael eich adroddiad yn barod ichi ei ddarllen o fewn pythefnos.
Gallwn roi mwy o gymorth a chyfarpar yn ddiweddarach yn eich cwrs, os bydd angen. Bydd angen i’r Ganolfan Access drafod yr angen ychwanegol â chi, a bydd yn ysgrifennu at yr Corff Cyllido, gan ofyn am unrhyw eitemau ychwanegol y bo eu hangen.

Mae'r Ganolfan Access yn gweithio i'r amseroedd canlynol:

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Graddfa amser

Cynnig apwyntiad chi ar gyfer Asesiad Anghenion unwaith y byddwn wedi derbyn y papurau angenrheidiol (fel rheol cadarnhad Corff Cyllido a naill ai tystiolaeth feddygol neu adroddiad Seicolegydd Addysg)...

...cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon gennym a'n bod mewn cysylltiad uniongyrchol â chi

Cynnig apwyntiad i chi ar gyfer Asesiad Anghenion o fewn ...

... y 15 diwrnod gwaith nesaf

Ar ôl i chi gael eich asesiad, byddwn yn anfon copi drafft o’r adroddiad atoch i’w ddarllen (a chytuno â’r cynnwys drwy lenwi’r ffurflen amgaeedig) ...

... o fewn 10 diwrnod gwaith o’ch apwyntiad asesiad

Cytuno a gwneud unrhyw newidiadau i’ch adroddiad Asesiad unwaith y byddwn wedi clywed oddi wrthych ...

...  o fewn 2 ddiwrnod gwaith

Anfon copi terfynol eich adroddiad Asesiad Anghenion at eich corff cyllido ...

... o fewn 1 diwrnod gwaith

Anfon copi terfynol o’ch adroddiad Asesiad Anghenion atoch ...

... o fewn 3 diwrnod gwaith

Amseroedd disgwyl: ar hyn o bryd o'r 30 Mawrth 2020 mae amseroedd disgwyl am asesiad yn 2 diwrnod gwaith..

Gall asesiadau gael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ledled y DU - cliciwch ar y ddolen: DSA-QAG

Beth yw LMA?

Beth yw’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)?

Gellir defnyddio’r lwfans i roi’r cymorth ychwanegol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ag anableddau. Ei fwriad yw darparu cyllid ar gyfer eitemau a fydd yn gymorth i unioni unrhyw anfanteision a fo ar y myfyrwyr hynny.

Beth y gellir ei ddarparu?

Pwrpas y LMA yw darparu cyllid i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs AU, ac sy’n deillio’n uniongyrchol o’ch anabledd. Gall y LMA roi cymorth dynol, cyfarpar, a chymorth tuag at gostau eraill sy’n ymwneud ag anabledd, a theithio. Ni all gyllido: costau cysylltiedig ag anabledd a fyddai arnoch p’un a fyddech yn fyfyriwr neu beidio, a chostau astudio a allai fod ar bob myfyriwr.

Pwy all wneud cais am LMA?

Yn gyffredinol, gall unrhyw fyfyriwr mewn Addysg Uwch sydd ag anabledd wneud cais (yn cynnwys y rhai sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol megis Dyslecsia).

Lle dylwn gychwyn?

Ewch i adran y Drefn Gwneud Ceisiadau am wybodaeth lawn. Yn y lle cyntaf, mae angen i’ch corff cyllido gael gwybod am eich bwriad i wneud cais am LMA, yn achos myfyrwyr Brifysgol Aberystwyth, gellwch gysylltu â’r Ymgynghorydd Hygyrchedd (accessibility@aber.ac.uk).

Lle mae’r Ganolfan ACCESS?

Prifysgol Aberystwyth

Mae’r gwasanaeth estyn allan ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y Ganolfan Groeso ar Gampws Penglais.  Mae manylion am y Ganolfan Groeso i’w cael yma.

Gellwch gael gwybodaeth am ein lleoliad, yn cynnwys map a chynllun taith, yma.

Os cewch drafferth cael hyd i’r adeilad, gellwch gael cymorth yn y brif dderbynfa yn y fynedfa i’r campws.  

Sat Nav: SY23 3FB

Map Prifysgol Aberystwyth

Canolfan Access Bangor

Cysylltu â Ni

Prifysgol Aberystwyth

Cymorth Myfyrwyr
Canolfan Croesawu Myfyrwyr
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3FB
Ffôn: 01970 823004
Ebost:access.centre@aber.ac.uk

Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Iau o 9y.b i 5.00y.p, Dydd Gwener o 9y.b i 4.00y.p heblaw am Wyliau Banc.

Pam dewis Canolfan Allgymorth Aberystwyth?

  • Rydym yn darparu gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol;
  • Rydym yn darparu adroddiadau ac asesiadau o ansawdd uchel;
  • Rydym yn canolbwyntio ar fyfyrwyr ac yn cael adborth ardderchog am ein gwasanaeth.

 

Oriau Swyddfa

 

Bydd personél ar gael i ateb galwadau ac ymholiadau myfyrwyr.

Asesiadau o Anghenion

 

Aseswyr ar gael i gynnal asesiadau anghenion.

Dydd Llun

9y.b i 5.00y.p

10y.b i 3y.p

Dydd Mawrth

9y.b i 5.00y.p

10y.b i 3y.p

Dydd Mercher

9y.b i 5.00y.p

10y.b i 3y.p

Dydd Iau

9y.b i 5.00y.p

10y.b i 3y.p

Dydd Gwener

9y.b i 4.00y.p

10y.b i 3y.p

Dydd Sadwrn

Ar gau

Ar gau

Dydd Sul

Ar gau

Ar gau

Ein rhif achrediad i'w: 110667